Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Sut wyf yn gwneud ewyllys?

  1. Sut wyf yn gwneud ewyllys?
  2. Beth os yw fy mherthynas yn etifeddu swm o arian?
  3. Beth yw ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn?
  4. Pwy sydd yn arbenigo mewn ymddiriedolaethau ac afiechyd meddwl?
  5. Sut wyf yn medru dod o hyd i gyfreithiwr?
  6. Camau nesaf

Making a will when you have a mental illness

Manteision ewyllys

Bydd ewyllys yn eich caniatáu i benderfynu pwy sydd yn mynd i dderbyn eich arian a’ch asedau pan fyddwch yn marw. Mae asedau yn golygu pob dim yr ydych yn berchen. Maent yn medru cynnwys pethau fel eich tŷ neu gyfranddaliadau. Mae gwneud ewyllys yn golygu eich bod yn medru:

  • Osgoi gwrthdaro am etifeddiaeth,
  • Gwneud trefniadau ar gyfer eich angladd,
  • Yn trefnu rhoddion penodol, er enghraifft, os oes yna werth sentimental i rywbeth,
  • Cynllunio taliadau treth,
  • Trefnu ymddiriedolaethau, a
  • Trefnu bod person neu bobl yr ydych yn ymddiried ynddynt yn medru delio gyda’ch arian a’ch asedau ar ôl i chi farw. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel ‘ysgutorion’.

Sut wyf yn gwneud ewyllys?

Rydych yn medru gwneud ewyllys eich hun neu ewch i weld cyfreithiwr. Rydych yn medru prynu 'pecyn ewyllys’ yr ydych yn medru cwblhau eich hun ond mae’r rhain ond yn briodol os ydy’ch sefyllfa yn syml iawn.

 

Rydych yn medru gwneud ewyllys eich hun neu drwy gyfreithiwr.

Dylech drefnu mynd i weld cyfreithiwr am eich ewyllys os:

  • Nid yw eich ewyllys yn syml. Mae hyn yn ddibynnol ar faint o arian ac asedau sydd gennych a phwy sydd am dderbyn hyn oll.
  • Os yw eich arian a’ch asedau yn werthfawr iawn ac yn werth llawer iawn o arian.
  • Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich ewyllys neu gyngor.
  • Rydych yn rhannu eiddo gyda phobl na sydd yn ŵr, yn wraig neu’n bartner sifil i chi,
  • Rydych am adael arian neu eiddo i berson sy’n ddibynnol arnoch ac na sy’n medru gofalu am ei hunan. Mae hyn yn cynnwys plan o dan 18 mlwydd oed.
  • Mae sawl aelod o’r teulu sydd yn medru hawlio rhan o’ch ewyllys megis ail ŵr/gwraig neu blant o berthynas arall.
  • Mae eich cartref parhaol y tu allan i’r DU,
  • Mae eiddo tramor gennych, neu
  • Mae busnes gennych.

Rydych yn medru dod o hyd i gyfreithiwr drwy gysylltu gyda:

Society of Trust and Estate Practitioners (STEP)

Yn cadw cofnodion o gyfreithwyr sydd yn arbenigo mewn trefnu ewyllysiau/ymddiriedolaethau. Rydych yn medru chwilio am gyfreithwyr yn eich ardal ar y wefan neu mae modd i chi eu ffonio. Mae modd iddynt ddanfon rhestr i chi yn y post.

Ffȏn: 020 3752 3700

E-bost: step@step.org

Gwefan: www.step.org/member-directory; (rydych yn medru chwilio am gyfreithwyr drwy’r ddolen hon).

Cymdeithas y Cyfreithwyr

Ffȏn: 020 7320 5650

Gwefan: www.lawsociety.org.uk/find-a-solicitor; (tudalen chwilio cyfreithwyr).

Mae rhai banciau a sefydliadau ariannol eraill yn cynnig gwasanaethau ysgrifennu ewyllys, ac mae rhaid i chi dalu am ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Gallwch ofyn i’ch banc neu chwiliwch ar y rhyngrwyd am y gwasanaeth yma.

Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi paratoi llyfryn o’r enw Eich canllaw i wneud ewyllys

Ble ddylem gadw fy ewyllys?

Dylech gadw eich ewyllys yn ddiogel fel bod modd ei ganfod pan fydd ei angen. Dylech ddweud wrth eich ysgutorion ble yn union y mae eich ewyllys.

 

 

Dylech gadw eich ewyllys yn ddiogel fel bod modd ei ganfod pan fydd ei angen. Dylech ddweud wrth eich ysgutorion ble yn union y mae eich ewyllys.

Mae modd i chi gadw eich ewyllys yn ddiogel rhywle adref. Fel arall, gallwch storio’r ewyllys yn y llefydd canlynol. Efallai y byddant yn codi tâl er mwyn gwneud hyn.

  • Eich banc
  • Eich cyfreithwyr
  • Cwmni sydd yn cynnig storio ewyllysiau – mae modd i chi chwilio am y rhain ar-lein

Gwasanaeth Profiant Llundain (London Probate Service)

Ffȏn: 0207 421 8509

Cyfeiriad: Principal Registry of the Family Division, 7th Floor, 42-49 High Holborn, First Avenue House, Holborn, Llundain WC1V 6NP.

Gwefan: https://courttribunalfinder.service.gov.uk/courts/london-probate-department.

Beth sydd yn digwydd os nad wyf yn gwneud ewyllys?

Os nad oes ewyllys gennych pan eich bod yn marw, mae hyn yn cael ei alw’n ‘dying intestate’. Os ydych yn marw heb ewyllys:

  • Efallai na fydd rhai pethau yn digwydd yn y ffordd yr hoffech iddynt ddigwydd,
  • Efallai na fydd eich arian ac asedau yn cael eu rhannu mewn modd yr ydych yn credu sy’n deg,
  • Mae pethau yn medru bod yn fwy cymhleth,
  • Efallai y bydd perthynas yn gwneud cais i’r llys am yr hyn a adnabyddir fel Llythyron Gweinyddiaeth, a
  • Bydd eich arian a’ch asedau yn mynd i’ch perthnasau mewn trefn blaenoriaeth.

Os ydych am ganfod pwy fydd yn etifeddu eich arian a’ch asedau pan fyddwch yn marw - os nad oes ewyllys gennych - mae modd i chi ddefnyddio gwefan y llywodraeth.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch marw heb ewyllys, mae modd i chi gael cyngor gan gyfreithiwr.

Mae mwy o wybodaeth ar  wefan y llywodraeth.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Sut wyf yn gwneud ewyllys?
  2. Beth os yw fy mherthynas yn etifeddu swm o arian?
  3. Beth yw ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn?
  4. Pwy sydd yn arbenigo mewn ymddiriedolaethau ac afiechyd meddwl?
  5. Sut wyf yn medru dod o hyd i gyfreithiwr?
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau