Y Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl ac Arian
Adnodd i’ch helpu i ddeall, rheoli a gwella eich iechyd meddwl ac ariannol yw’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl ac Arian.
Gallwch ei ddefnyddio i helpu i lywio sgyrsiau gyda’ch gweithiwr gofal iechyd perthnasol am eich iechyd meddwl a’ch arian. Gallwch fynd ag ef gyda chi i unrhyw apwyntiadau i drafod arian neu ddyled y byddwch o bosibl yn eu mynychu.
*Os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol y mae arnoch eisiau defnyddio’r Pecyn Cymorth gyda’ch cleifion, cliciwch yma am ragor o wybodaeth (English language only).
Pam defnyddio’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl ac Arian?
Bydd y Pecyn Cymorth yn helpu i lywio sgyrsiau am iechyd meddwl ac arian gyda’ch gweithiwr gofal iechyd neu ymgynghorydd dyled. Fe’i cydgynhyrchwyd gyda phobl sydd â phrofiad personol o anawsterau gydag iechyd meddwl ac arian a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n cynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd meddwl a’u harian.
Gall y Pecyn Cymorth eich helpu i:
“Mae’r pecyn cymorth hwn yn gam cyntaf mor hanfodol i wybod bod rhywbeth i droi ato os ydych yn profi anawsterau...”
“Gall materion arian ac iechyd meddwl fod yn gymaint o her i siarad amdanynt oherwydd y gwarthnod sy’n gysylltiedig â hynny. Mae’r pecyn cymorth hwn yn gam cyntaf mor hanfodol i wybod bod rhywbeth i droi ato os ydych yn profi anawsterau, ac i ddangos y gallwch ofyn am help heb gael eich barnu na theimlo embaras. Mae’n wych.”
“...adnodd rhagorol i gynorthwyo’r rhai sy’n profi anawsterau cyffredin gyda’u hiechyd meddwl.”
“Mae’r canllaw hwn yn adnodd rhagorol i gynorthwyo’r rhai sy’n profi anawsterau cyffredin gyda’u hiechyd meddwl i ddeall y berthynas rhwng lles ac anawsterau gydag arian yn ogystal â darparu llawer o offer ymarferol i’w helpu i reoli pethau eu hunain.”
Beth sydd yn y Pecyn Cymorth
Mae’r Pecyn Cymorth wedi’i rannu’n wahanol adrannau, gan eich galluogi i ddewis pa rai sy’n berthnasol i chi. Rydym yn argymell bod pawb yn cwblhau Adran 1 yn gyntaf. Nid oes rhaid i chi fynd drwy’r adnodd i gyd ar unwaith; gallwch ddod yn ôl ato unrhyw bryd.
Lawrlwythwch eich copi rhad-ac-am-ddim o’r
Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl ac Arian
Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl ac Arian i’ch helpu i ddeall, rheoli a gwella eich iechyd meddwl ac ariannol.
Mae’r ffeil PDF ddigidol ryngweithiol hon yn eich galluogi i weithio drwy’r ddogfen ar unrhyw ddyfais a chadw’r hyn yr ydych wedi’i roi i mewn bob tro. Y tro nesaf, gallwch agor eich ffeil PDF wedi’i chadw a pharhau â’ch siwrnai.
Lawrlwytho taflenni gweithgareddau’r Pecyn Cymorth
Mae’r taflenni gweithgareddau hyn wedi’u cynnwys yn y Pecyn Cymorth llawn, ond efallai y byddwch yn dymuno’u hargraffu’n unigol i weithio drwyddynt. Maent yn cynnwys meithrin hyder, hunanofal, datrys problemau, blaenoriaethu biliau ac incwm a thaliadau allan.
Pecyn Taflenni Gweithgareddau
Lawrlwytho’r PDFStraeon go iawn
Alma’s stori
Roeddwn wedi mynd i ddyled o £30,000 cyn i mi dderbyn diagnosis o anhwylder deubegynol. Roeddwn wedi defnyddio cwmni dyled masnachol a oedd yn hollol ddiwerth ond rwyf wedi troi cornel erbyn hyn.
Mwy o wybodaethGarrick’s stori
Bu farw fy mab, dioddefais iselder ac felly, nid oeddwn yn medru gweithio na thalu biliau ond rwyf yn ymdopi gyda phethau erbyn hyn... nid oeddwn wir yn ymdopi, roeddwn yn cael trafferth. Nid oeddwn yn cysgu, ac roeddwn yn orbryderus drwy’r amser.
Mwy o wybodaethKatherine's stori
Mae sgitsoffrenia gan fy chwaer ac roedd yn gwario pob ceiniog a oedd ganddi. Mae pŵer atwrneïaeth arhosol gennyf erbyn hyn, ac rwyf yn gofalu am ei harian ac mae pethau dipyn gwell erbyn hyn.
Mwy o wybodaethCyngor iechyd meddwl ac arian
Yn ychwanegol at y Pecyn Cymorth, mae gennym lawer o erthyglau manwl a all eich helpu i reoli eich sefyllfa o ran iechyd meddwl ac arian yn well.
Cyngor ar fudd-daliadau lles
Mae ymgeisio am fudd-daliadau gyda chyflwr iechyd meddwl yn gallu bod yn frawychus. Mae ein canllawiau hawdd i’w deall yn egluro popeth o safbwynt iechyd meddwl.
Cyngor ar reoli arian
Mae rheoli eich arian yn gallu bod yn anodd, a gall eich iechyd meddwl ddioddef os ydych yn ymdrin â gofidiau ynghylch arian.