Straeon go iawn
Alma’s stori
Roeddwn wedi mynd i ddyled o ryw £30,000 cyn i mi gael diagnosis bod anhwylder personoliaeth arnaf
Nid wyf yn grêt yn siarad ar y ffôn gan fy mod yn dechrau pryderi’n ddifrifol ac yn cael pwl o banig os yw’n rhif nad wyf yn adnabod neu os wyf yn credu mai’r banc sydd ar y ffôn.
Rwyf wedi derbyn diagnosis o anhwylder personoliaeth ond nid oeddwn wedi canfod hyn tan fy mod yn fy mhedwardegau ac eisoes mewn dyled o £30,000. Roeddwn yn gweithio mewn swydd a oedd yn arwain at dipyn o straen fel swyddog prawf ac roeddwn wedi gweithio cyn hyn fel athro ysgol uwchradd. Roeddwn hyd yn oed wedi rheoli troseddwyr gydag anhwylderau personoliaeth - nid oeddwn wedi sylweddoli fy mod innau hefyd yn dioddef o’r cyflwr.
Byddwch yn wyliadwrus o gwmnïau dyled masnachol
Ar y pryd, roeddwn wedi bod yn talu un o’r cwmnïau dyled yma i ad-dalu’r holl ddyledion eraill ar fy rhan ond roeddwn dal yn derbyn Dyfarniadau Llys Sirol yn y post. Nid oeddwn yn medru deall pam fod hyn yn digwydd. Yn y pendraw, daeth hi’n amlwg nad oedd y cwmni wedi bod yn rhannu’r holl arian gyda’m credydwyr, ac nid oedd y symiau’n gywir, ac nid oeddwn hyd yn oed yn talu’r llog.
Roedd ffrind i mi wedi siarad gyda chynghorydd arian ar fy rhan ac wedi trefnu cyfarfod i mi ac mi wnes i bob dim a ddywedyd wrthyf. Aethom drwy’r broses a llwyddais sicrhau Trefniant Gwirfoddol Unigol ac roedd fy nyledion wedi eu dileu.
Y broses Taliad Annibynnol Personol (TAP)
Roedd y broses TAP wedi arwain at gymaint o straen, ac roedd yn gwneud i mi deimlo’n sâl. Rwyf yn ddig iawn am hyn nawr oherwydd roeddwn yn meddwl - rwyf yn berson hyddysg ac nid oeddwn yn medru delio gyda’r holl waith papur, cadw golwg ar yr holl fudd-daliadau ac yna’r straen ynghlwm wrth yr asesiad a’r holl aros.
Cefais 3 mis gyda’r tîm triniaeth yn y cartref, ac roeddem wedi gweithio ar gynllun argyfwng ac ail bwl o salwch. Siaradais gyda’m ffrind eto, ac roedd wedi cynnig edrych ar ôl fy arian a’m taliadau lles ar fy rhan.
Mae hefyd yn berson o awdurdod ar gyfer fy menthyciwr morgais, ac felly, maent yn medru trafod pethau gyda hi os oes angen.
Delio gyda’r biliau hynny yn y post
Gan fod arian yn effeithio ar bob rhan o’ch bywyd, nid wyf yn medru credu eu bod yn llusgo pobl drwy hyn oll - gyda’r asesiadau am fudd-daliadau, ceisio rheoli’r broses TAP a’n gorfod apelio yn erbyn penderfyniadau. Mae angen mwy o help ar bobl. Yn enwedig ar y cysylltiad rhwng iechyd meddwl ac arian, mae mor anodd.
Rwyf yn medru gwario mil o bunnoedd mewn rhyw awr ar-lein os wyf mewn hwyl manig. Pan fydd fy iechyd meddwl yn dioddef, rwy’n gwybod fy mod am wario, ond os wyf hefyd yn poeni am arian, mae hyn yn gwneud i mi bryderi a chael pyliau o banig. Digwyddodd hyn yn ddiweddar pan dderbyniais arian ar ôl mynd drwy dribiwnlys apêl y TAP. Roedd yr arian yn eistedd yno yn fy nghyfrif ac roeddwn yn credu bod angen i mi wario. Trosglwyddydd y rhan fwyaf o’r taliad i gyfrif fy ffrind fel bod modd i mi ofyn am arian pan oedd angen. Rwyf hefyd yn ceisio talu fy holl filiau hanfodol, ac os oes rhywbeth yn weddill, mae hyn yn mynd yn syth i’r cyfrif undeb credyd fel fy mod yn medru dechrau cynilo. Mae tua £10-20 y mis yn weddill ac rwy’n caniatáu fy hun i wario hyn ar gemau ar-lein pan fydd yna ddigon o arian ar ôl.
Erbyn, rwyf yn cynnal grŵp cymorth i gymheiriaid ac rwyf yn rhannu’r hyn oll yr wyf wedi dysgu. Rwyf wedi mynd drwy gymaint o bethau, ond os wyf yn medru helpu rhywun, rwy’n barod i wneud hyn.
Darllenwch mwy am sut i reoli eich gwariant, delio gyda’ch biliau , reoli eich gwariant, delio gyda’ch biliau neu ganfod eich grŵp cymorth.