Rheoli arian
Mae yna lawer o ffyrdd i reoli eich arian a chynilo; dyma rai enghreifftiau:
Trwydded teledu
Mae’n bwysig eich bod yn talu eich trwydded deledu gan eich bod yn medru cael eich dirwyo os nad ydych yn meddu ar drwydded. Mae yna nifer o ffyrdd gwahanol i dalu, ac rydych yn medru talu’n wythnosol, yn fisol, bob 3 mis neu’n flynyddol. Mae mwy o wybodaeth yma neu ffoniwch 0300 555 0286.
Trwydded Teledu
0300 555 0286
www.tvlicensing.co.uk
Nwy a thrydan
Mae’n bwysig eich bod yn gosod arian o’r neilltu er mwyn talu am nwy a thrydan. Dylai eich cyflenwr gynnig opsiynau talu addas i chi a rhoi’r opsiwn i chi dalu’n fisol neu wythnosol.
Os ydych yn defnyddio llawer iawn o nwy/trydan, mae cyngor ar gael o’r The Energy Saving Advice Service.
Os oes mesurydd talu ymlaen llaw gennych a’ch bod yn gosod llawer iawn o arian yn y mesurydd bob wythnos, efallai bod hyn yn sgil y ffaith eich bod yn ad-dalu dyled ynghyd â thalu am yr hyn yr ydych yn ei ddefnyddio. Gofynnwch i’ch cyflenwr a oes modd i chi leihau’r swm yr ydych yn ad-dalu am y ddyled. Mae rhai cyflenwyr tanwydd yn cynnig cronfeydd sydd yn medru eich helpu os ydych yn cael trafferth yn talu. Gofynnwch i’ch cyflenwr os oes cronfa o’r fath ganddynt, neu ewch i lawrlwytho canllaw o'r Auriga Services sydd yn medru eich helpu i ganfod cronfeydd i’ch helpu chi gyda biliau ynni a dŵr. Bydd rhai o’r cronfeydd hefyd yn medru eich helpu gyda grantiau ar gyfer eitemau hanfodol ar gyfer y cartref.
Er mwyn canfod y cytundeb gorau, gallwch ddefnyddio offeryn cymharu Cyngor Ar Bopeth neu fel arall, ffoniwch linell gymorth Cyngor ar Bopeth ar 0345 404 0506.
Cyngor Ar Bopeth
0345 404 0506
www.citizensadvice.org
Mae rhestr o safleoedd cymharol awdurdodedig ar gael ar wefan Ofgem.
Dŵr
Os ydych yn cael trafferth yn talu eich bil dŵr, gofynnwch i’ch cyflenwr os ydych yn gymwys i dderbyn cymorth ac os yw’ch cwmni dŵr yn cynnig cronfa o’r fath. Os ydych yn gymwys i dderbyn cymorth, mae modd i chi dderbyn gostyngiad ar eich bil ac mae cronfeydd yn medru eich helpu chi os ydych mewn dyled i’ch cwmni dŵr ac yn cael trafferth yn talu.
Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael ar wefan y cyngor defnyddwyr dwr.
Llinell Dir, Ffȏn Mudol a Bandeang
Os ydych yn edrych ar eich cyllideb, efallai y byddwch yn sylwi bod costau misol eich llinell dir a ffȏn mudol yn sylweddol, yn enwedig os oes tipyn ohonoch yn y cartref sydd â ffȏn mudol. Efallai eich bod yn gymwys i elwa o BT Basic sydd yn cynnig ffordd resymol o rentu llinell ffȏn a gwneud galwadau ac mae ar gael i bobl sydd yn derbyn budd-daliadau penodol. Mae mwy o wybodaeth ar wefan BT. Fel arall, mae’n werth ffonio eich cyflenwr er mwyn gwirio a oes modd i chi gael pecyn rhatach a gofynnwch iddynt ba rannau o’r pecyn sydd yn costio fwyaf.
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Arian.
Teithio
Os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, efallai eich bod yn medru arbed arian drwy brynu tocyn teithio.
Os oes anabledd gennych, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn tocyn teithio i’r anabl. Dewch i ganfod pwy sydd yn rheoli'r cynllun yn eich ardal.
Os ydych yn anabl, mae modd i chi wneud cais am gerdyn rheilffordd i berson anabl.
Os oes car gennych, peidiwch ag anghofio cynnwys pethau megis MOT, yswiriant, petrol a threth ar eich taenlen. Mae yna nifer o wefannau cymharol y mae modd i chi ddefnyddio er mwyn canfod y fargen orau ar yswiriant ceir. Efallai bod yna bethau eraill sydd angen eu hystyried o ran yswiriant car os oes afiechyd meddwl arnoch - mae mwy o wybodaeth yma.
Opsiwn arall o ran teithio yw beicio. Mae’n ffordd iach i fynd o le i le ac mae astudiaethau yn dangos fod hyn yn medru gwella eich iechyd meddwl. Os ydych yn gweithio, dylech wirio a yw eich cyflogwr yn cynnig y cynllun Beicio i’r Gwaith