Mudiadau sydd yn helpu
Os ydych wir yn cael trafferthion yn rheoli eich arian neu’n cael problemau gyda budd-daliadau, mae yna nifer o fudiadau sydd yn medru eich helpu.
Mae yna nifer o fudiadau sydd yn medru eich helpu.
Gwasanaeth Cyngor ac Arian
Mwy o fanylion am fudiadau cenedlaethol sydd yn medru darparu cyngor am ddyledion. naill ai dros y ffȏn neu wyneb i wyneb.
National Debtline
Yn darparu cyngor annibynnol am ddim ac yn gyfrinachol am ddyled. Mae modd i chi gysylltu hwy dros y ffȏn, ar e-bost neu lythyr.
Ffȏn: 0808 808 4000 (Llun i Gwener 9am - 8pm a Sadwrn 9.30am - 1pm)
Gwefan: www.nationaldebtline.org
StepChange
Yn darparu cyngor a chymorth annibynnol am ddim ac yn gyfrinachol am ddyled. Mae modd i chi gysylltu hwy dros y ffȏn neu ar-lein.
Ffȏn: 0800 138 1111 (Llun i Gwener 8am i 8pm a Sadwrn 8am i 4pm)
Gwefan: www.stepchange.org
Cyngor ar Bopeth (CAB)
Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol, gwrthrychol ac annibynnol am ddim. Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd yn y wlad yn meddu ar wasanaeth CAB. Maent hefyd yn medru cynnig cyngor am ddyledion, budd-daliadau, tai a materion eraill. Mae modd i chi gael cyngor ar y ffôn, e-bost, wyneb i wyneb, ac weithiau, maen bosib iddynt ymweld gyda chi yn eich cartref, aent hefyd yn cynnig cyngor budd-daliadau lles.
Ffôn (Cymru): 08444 77 20 20
Gwefan: www.citizensadvice.org.uk
Cyngor Budd-daliadau Lles
Canolfannau Cyfraith
Mae canolfannau cyfraith yn cynnig cyngor cyfreithiol a ddim ac mae llawer yn arbenigo mewn budd-daliadau lles, ac mae rhai achosion, mae modd cynrychioli unigolion mewn tribiwnlysoedd budd-daliadau lles.
Er mwyn canfod eich chanolfan gyfraith leol yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon:
http://www.lawcentres.org.uk/about-law-centres/law-centres-on -google-maps/geographically
Turn 2 Us
Elusen genedlaethol sydd yn ceisio helpu pobl mewn caledi ariannol drwy eu helpu i gael mynediad ar fudd-daliadau lles a grantiau elusennol
Cymorth a Chyngor Iechyd
Os ydych yn teimlo fel lladd neu niweidio eich hun neu eraill, yna
- Ffoniwch 999
- Ewch i’ch Uned Damweiniau Brys agosaf. Mae modd i chi chwilio ar-lein am eich adran leol drwy’r wefan NHS Choices
Ar gyfer sefyllfaoedd na sy’n argyfwng:
- Ewch at eich Meddyg Teulu
- Ffoniwch 111 neu NHS Choices drwy fynd i http://www.nhs.uk
Cynllun gofal
Os ydych eisoes yn derbyn cymorth iechyd gan wasanaethau iechyd meddwl, dylech gael cynllun gofal. Bydd hyn yn cynnwys manylion o’r person y dylech gysylltu gyda hwy os mewn argyfwng.
Os nad ydych yn medru canfod eich cynllun gofal yn ystod y dydd, cysylltwch gyda’ch Tim Iechyd Meddwl Cymunedol a gofynnwch i’r person neu’r cydlynydd gofal sydd ar ddyletswydd. Yn ystod yr hwyr, ar benwythnosau ac ŵyl y banc, ffoniwch eich tîm argyfwng lleol.
Cymorth emosiynol
Os hoffech siarad gyda rhywun am eich problemau, yna efallai y byd modd y llinell gymorth yn ddefnyddiol. Mae’n werth rhoi cynnig ar y canlynol:
Samariaid
Yn cynnig cymorth emosiynol 24 awr y dydd
Ffôn: 116 123
E-bost: jo@samaritans.org
Gwefan: www.samaritans.org
Sane Line
Yn cynnig cymorth emosiynol iechyd meddwl arbenigol rhwng 6am ac 11pm bob dydd. Ac mae modd i chi e-bostio hefyd drwy’r wefan.
Ffôn: 0845 767 8000
Gwefan: www.sane.org.uk