Codau Ymarfer a Chanllawiau
Efallai eich bod o bosib yn ei chanfod hi’n anodd siarad gyda chredydwyr a mudiadau eraill am faterion ariannol pan eich bod yn sâl. Efallai y bydd hi’n fwy hawdd i chi os ydych yn gwybod mwy am y cyfreithiau a’r canllawiau amrywiol sydd ar gael i’ch amddiffyn chi a’n cynnig mwy o wybodaeth i chi os ydych yn agored i niwed neu’n dioddef gyda’ch iechyd meddwl.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn amddiffyn pobl rhag bod rhywrai yn gwahaniaethu yn eu herbyn mewn cymdeithas. Mae modd i chi gael eich diogelu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb os oes cyflwr iechyd meddwl gennych a’ch bod wedi eich categoreiddio fel rhywun anabl. . Mae hyn yn golygu bod yr Adran Waith a Phensiynau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) o bosib yn gorfod ystyried gwneud ‘addasiadau rhesymol’ yn sgil eich iechyd meddwl. Mae hyn yn medru golygu darparu cymorth ychwanegol er mwyn eich helpu i hawlio budd-dal, neu’n rhoi ystyriaeth i’ch cyflwr os ydych yn cael trafferth cadw apwyntiadau.
Os ydych yn gweithio ac yn meddu ar gyflwr iechyd meddwl, mae dyletswydd ar eich cyflogwr i wneud ‘addasiadau rhesymol’. Mae hyn yn medru cynnwys pethau megis newid eich oriau, darparu cymorth ychwanegol i reoli llwyth gwaith neu’n gwneud newidiadau i’r gofod gwaith. Os ydych yn gwneud cais am swydd, mae hyn hefyd yn berthnasol i gyflogwyr arfaethedig.
Dyled Credyd, Banciau, Benthyciadau, Gorddrafft
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) nawr yn gyfrifol am reoleiddio cwmnïau sydd yn darparu cynnrych ariannol megis banciau, benthycwyr diwrnod cyflog a chwmnïau cardiau credyd. Mae Pennod 8 o'r Consumer Credit Sourcebook (CONC) yn cynnwys rheolau a chanllawiau ynglŷn â’r ffordd y dylid trin cwsmeriaid. Mae rheolau’r AYA yn datgan fod yn rhaid i’r holl gwmnïau i gael polisïau a gweithdrefnau i ddelio gyda chwsmeriaid sy’n agored i niwed ac yn methu ad-dalu dyledion yn brydlon ac mae hyn yn cynnwys pobl sydd â thrafferthion ariannol.
Mae'r Standards of Lending Practice for Personal Customers yn god ymarfer gwirfoddol ac mae’r rhan fwyaf o fanciau a chwmnïau credyd yn dilyn y cod hwn. Mae’r cod ymarfer yn dweud y dylai cwmnïau feddu ar bolisïau er mwyn adnabod cwsmeriaid sydd yn, neu o bosib, yn agored i niwed a dylent gael staff sgilgar sydd yn medru trin y cwsmeriaid yma yn briodol. Pan fydd person mewn trafferth ariannol a’n agored i niwed, mae’n dweud hefyd y dylid trin y person hwn yn sympathetig ac yn bositif. Mae’r rheolau a’r canllawiau yma nawr yn golygu y dylech gael cynnig cymorth ychwanegol os ydych yn dweud wrth eich credydwyr am eich iechyd meddwl a bod hyn wedi gwneud hi’n anodd i reoli eich arian. Mae nifer o gwmnïau yn meddu ar dimau penodol sydd wedi eu hyfforddi’n benodol i’ch helpu chi.
Money Advice Liaison Group (MALG)
Mae’r Money Advice Liaison Group (MALG) wedi llunio Good Practice Awareness Guidelines for helping consumers with mental health conditions and debt. Efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi ddarllen hwn os ydych yn gofyn am help ychwanegol gan gredydwyr neu os ydych yn gofyn iddynt ystyried dileu'r dyled yn sgil eich iechyd meddwl.
Mae MALG hefyd wedi llunio’r Ffurflen Dystiolaeth Dyled ac Iechyd Meddwl. Mae cynghorydd dyled neu gredydwr yn medru rhoi’r ffurflen hon i chi er mwyn gofyn am wybodaeth am eich afiechyd meddwl gan eich gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol. Mae credydwyr wedyn yn medru gofyn iddynt helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i ddelio gyda’ch cyfrif. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw ar ffeil cyn hired ag sydd angen at ddibenion busnes. Nid oes hawl rhannu’r wybodaeth hon gyda mudiadau eraill.
Ni ddylai credydwyr rhannu’r wybodaeth yr ydych wedi rhoi iddynt er mwyn gwneud penderfyniadau benthyg yn y dyfodol. Fodd bynnag, efallai y byddant yn gofyn cwestiynau pellach am eich cyflwr er mwyn sicrhau eu bod yn benthyg yn gyfrifol. Os ydych yn credu y bydd y ffurflen Debt and Mental Health Evidence yn helpu eich sefyllfa, dylech ofyn am gyngor o’r mudiad sydd yn medru darparu cyngor am ddim am ddyledion.
Debt & Mental Health Evidence Form
Mae’r Debt and Mental Health Evidence Form (DMHEF) yn ffurflen safonol.
Mae’r ffurflen wedi ei dylunio i ofyn i weithiwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol am dystiolaeth o’ch amgylchiadau,. Mae wedi ei dylunio er mwyn ei gwneud hi’n eglur i gasglu’r wybodaeth hon i chi a’ch credydwyr.
Unwaith y mae’r ffurflen wedi ei chwblhau, mae modd ei llungopïo a’i danfon at eich holl gredydwyr.
Fel arfer, rydych yn derbyn y DMHEF gan eich cynghorydd dyled neu’ch credydwyr. Mae modd cael copi o’r bobl a’i lluniodd sef y Money Advice Liaison Group (MALG), ond nid yw’r MALG yn medru eich helpu chi gyda’r ffurflen neu ateb cwestiynau gan iddynt ddylunio’r ffurflen yn unig.
Trydan – Os ydych angen cadarnhau pwy sydd yn cyflenwi eich trydan, yna mae modd i chi gysylltu gyda’ch cwmni dosbarthu lleol gan ddefnyddio’r rhifau isod:
Gogledd Cymru:
SP Energy Networks
0330 1010 300
De Cymru:
Western Power Distribution
0800 096 3080
Cyngor Lleol
Os ydych mewn dyled i’r cyngor gyda phethau megis y treth cyngor neu budd-dal tai, neu os ydych angen help ychwanegol yn cwblhau ffurflenni cyngor, mae’n werth gofyn a yw’r cyngor yn meddu ar bolisi ‘Agored i Niwed’ ac ‘Gwrthdlodi’ sydd yn golygu eich bod o bosib yn medru derbyn cymorth neu ystyriaeth ychwanegol. Ewch i ganfod pwy yw eich cyngor lleol.
Beilïaid /Asiantwyr Gorfodi
Os oes gennych ôl-ddyledion, dyfarniad llys neu ddirwy, bydd asiant gorfodi (sydd yn cael ei adnabod fel beilïaid) yn mynd ati i gasglu’r ddyled. Rhaid i’r holl feilïaid ddilyn The Taking Control Of Goods: National Standards. Mae hyn yn amlinellu’r safonau isafswm y mae rhaid i feilïaid eu dilyn ac yn cynnwys canllawiau i ddelio gyda phobl sy’n agored i niwed.
Trwyddedu Teledu
Os nad ydych wedi talu eich trwydded teledu ac yn agored i niwed, dylai’r cwmni trwyddedu lynu wrth ei bolisi agored i niwed pan yn delio gyda chi. Mae methu talu eich trwydded deledu yn drosedd anghyfreithlon ac yn medru arwain atoch yn cael eich erlyn. Fodd bynnag, bydd y polisi trwyddedu hefyd yn meddu ar bolisi Erlyn (adran 7.4.2 [f]) sydd yn datgan y bydd y cwmni yn ystyried os yw person yn agored i niwed pan yn ystyried a ddylid ei erlyn ai peidio.
Cwmnïau Dŵr a Chyfleustodau
Mae’r holl gwmnïau dŵr a chyfleustodau yn meddu ar gynlluniau sydd yn caniatáu eu cwsmeriaid i gofrestru am gymorth ychwanegol ac rydych yn medru gofyn iddynt eich cofrestru fel unigolyn yn meddu ar gyflwr iechyd, Os ydych yn cofrestru felly, efallai y byddwch yn medru derbyn cymorth ychwanegol gyda thalu eich biliau neu os oes anabledd gennych a bod angen cymorth ychwanegol er mwyn cywiro problemau yn ymwneud â’ch cyflenwadau tanwydd neu ddŵr.
Dŵr – Mae Cyngor Defnyddwyr Dwr wedi llunio taflen sydd yn esbonio mwy am y cymorth sydd ar gael, yn enwedig os oes cyflwr iechyd meddwl arnoch ac mae’r llyfryn yn cynnwys dolenni at gynlluniau cwmnïau dŵr eraill.
Cwmnïau Cyfleustodau - Er mwyn derbyn help ychwanegol gan eich cyflenwr nwy neu drydan, dylech gysylltu gyda’ch cyflenwr, ac mae eu manylion ar gael ar eich bil. Os nad ydych yn sicr os pwy yw eich cyflenwr neu wedi colli eich bil, darllenwch y manylion isod.
Nwy – Er mwyn canfod pwy sydd yn cyflenwi eich nwy, dylech gysylltu gyda’r Meter Point Administration Service ar 0870 608 152
Nwy
Meter Point Admin Services
0870 608 152
Trydan
Gogledd Cymru:
SP Energy Networks
0330 1010 300
De Cymru:
Western Power Distribution
0800 096 3080
Mudiadau eraill sydd yn medru cynnig cymorth ychwanegol
Yn ogystal â chwmnïau dŵr a chyfleustodau, mae modd i chi ofyn i fudiadau eraill sydd yn medru eich helpu a’ch cynorthwyo e.e. ffȏn, cyflenwyr, Post Brenhinol a darparwyr Trafnidiaeth Leol. Mae Rhwydwaith Rheoleiddwyr y DU wedi paratoi tudalen ddefnyddiol yn amlinellu rhai o’r gwasanaethau yma a allai fod o ddefnydd.