Beth yw ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn?
Mae yna fathau gwahanol o ymddiriedolaethau. Mae ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn un math o ymddiriedolaeth yr ydych yn medru ei chanfod yn ddefnyddiol ar gyfer eich perthynas. Mae’n medru golygu:
- Nid yw eich perthynas yn derbyn y taliad o ran yr etifeddiaeth yn syth pan eich bod yn marw,
- Bydd eich arian a’ch asedau yn trosglwyddo i bobl eraill, a elwir yn ‘ymddiriedolwyr’, a
- Mae’r ymddiriedolwyr yn dal yr arian a’ch asedau mewn ymddiriedolaeth ar gyfer eich perthynas.
Mae modd i chi ddewis pwy yw eich ymddiriedolwr. Mae’n bwysig eich bod yn dewis rhywun yr ydych yn credu sydd yn ddibynadwy
Mae modd i chi ddewis pwy yw eich ymddiriedolwr. Mae’n bwysig eich bod yn dewis rhywun yr ydych yn credu sydd yn ddibynadwy
Bydd yr ymddiriedolwyr yn penderfynu a ddylid rhoi arian i’ch perthynas neu beidio. Rydych yn medru rhoi cyfarwyddiadau i’r ymddiriedolwr yn amlinellu pryd y dylid rhoi arian i’ch perthynas. Ond maent yn medru penderfynu peidio â gwneud hyn – dyma pam fod hyn yn cael ei alw’n ‘ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn’.
Beth yw manteision ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn?
Mae manteision posib ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn medru cynnwys y canlynol.
- Ni fydd eich perthynas yn berchen ar yr arian yn eich ymddiriedolaeth. Felly, ni fyddant yn medru ei wario’n gyflym neu heb resymeg
- Ni fydd yr arian yn yr ymddiriedolaeth yn effeithio ar eu hawl i hawlio budd-daliadau neu’n cynyddu’r swm y maent yn gorfod talu tuag at ofal cymdeithasol, a
- Gallwch ddweud wrth yr ymddiriedolwyr ar beth y dylid gwario ar yr arian.
Beth yw anfanteision ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn?
Mae’r anfanteision posib o ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn cynnwys y canlynol:
- Nid oes rhaid i’r ymddiriedolwyr i dalu eich perthynas,
- Efallai na fydd eich perthynas yn derbyn yr holl arian yn yr ymddiriedolaeth, a
- Efallai bod yna rai anfanteision o ran treth ac mae angen i chi wirio hyn gyda’ch cyfreithiwr.
Sut wyf yn trefnu ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn?
Mae modd i chi drefnu ymddiriedolaeth drwy arwyddo gweithred ymddiriedolaeth. Dylid ceisio sicrhau bod y weithred ymddiriedolaeth yn cael ei lunio gan rywun sydd yn gymwys i wneud hyn, megis cyfreithiwr.
Mae’n bwysig i chi siarad gyda rhywun sydd yn brofiadol yn delio gydag ewyllysiau ac ymddiriedolaethau. Maent yn medru sicrhau bod ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn cael ei drefnu mewn modd sydd yn:
- Manteisio ar y manteision, a’n
- Lleihau’r anfanteision.
Mae’n bwysig nodi fod y gyfraith yn newid. Felly, nid oes sicrwydd fod arian yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn mynd i gael ei drin yn yr un ffordd yn y dyfodol.
Mae modd i chi ganfod mwy am ymddiriedolaethau ar wefan y Llywodraeth.