Beth os yw fy mherthynas yn etifeddu swm o arian?
Efallai y byddwch yn bryderus am allu eich perthynas i reoli swm o arian. Efallai y byddwch yn pendroni a fyddant:
- Yn gwario’r arian yn gyflym yn hytrach na’n gofalu amdano,
- Yn gwario’r arian yn synhwyrol,
- Yn rhannu’r arian ag eraill neu’n methu â gofalu am yr arian,
- Yn cael eu heffeithio o ran budd-daliadau, neu
- Yn golygu bod rhaid iddynt orfod talu am ofal cymdeithasol neu gartref gofal.
Budd-daliadau
Efallai y bydd eich perthynas yn hawlio budd-daliadau yn sgil incwm isel. Mae hyn yn cael ei alw’n ’fudd-daliadau sy’n ddibynnol ar brawf modd’ ac maent yn cynnwys:
- Lwfans Cymorth a Chyflogeth yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Cymorth Incwm
- Cymorth Treth Cyngor
- Budd-dal Tai
Mae’r budd-daliadau yma yn cael eu heffeithio gan incwm, cynilion neu asedau y mae eich perthynas yn derbyn. Os oes ganddynt:
- £6,000 neu’n fwy mewn cynilion, bydd hyn yn effeithio ar eu budd-daliadau, a
- £16,000 neu’n fwy yn golygu na fyddant yn medru derbyn budd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd
Byddai etifeddiaeth sydd yn cael ei dalu fel swm o arian yn dod yn rhan o gynilion eich perthynas. Mae hyn yn golygu bod derbyn swm o arian yn medru arwain at leihau eich budd-daliadau.
Byddai etifeddiaeth sydd yn cael ei dalu fel swm o arian yn dod yn rhan o gynilion eich perthynas. Mae hyn yn golygu bod derbyn swm o arian yn medru arwain at leihau eich budd-daliadau.
Nid yw budd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio gan incwm, cynilion neu asedau eraill o dan y rheolau budd-daliadau eraill. Mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘non means-tested’. Maent yn cynnwys:
- Lwfans Byw i'r Anabl (LBA)
- Taliad Annibynnol Personol (TAP)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau
Mae’r budd-dal olaf hwn ond yn parhau am 12 mis os ydych yn y grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith. Nid oes yna gyfyngiad ar yr amser os ydych yn y grŵp cymorth.
Os ydych angen gwybodaeth bellach am fudd-daliadau lles, gallwch gysylltu gyda Chyngor ar Bopeth. Os ydych am gael cyngor wyneb i wyneb, bydd eu gwefan yn nodi ble y mae eich swyddfa leol. Neu mae modd i chi eu ffonio a gofyn:
Cyngor ar Bopeth
Yn rhoi cyngor annibynnol ac am ddim am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.
Ffȏn: 03444 77 20 20
Gwefan: www.citzensadvice.org.uk
Gwasanaethau Cartrefi Gofal a Gofal Cymdeithasol
Os ydych yn meddu ar gynilion, mae hyn yn medru golygu bod eich perthynas o bosib yn gorfod talu costau os ydynt yn byw mewn cartref gofal neu’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Os ydych angen mwy o gyngor am hyn, mae modd i chi gysylltu gyda’ch cyngor lleol.