Sut i adnabod sgamiau a thwyll?
Gall fod yn anodd nodi a yw rhywbeth yn sgam ond dyma rai enghreifftiau o sut y gallwch chi sylwi a yw rhywbeth yn sgâm ai peidio a’r camau y gallwch eu cymryd i wirio:
- Rhy dda i fod yn wir: os yw rhywbeth yn ymddangos fel hyn, mae'n debygol mai dyma’r hyn sy’n digwydd. Gallai elw enfawr am wneud ychydig iawn fod yn sgam.
- Cystadlaethau ar hap: dylai gwahoddiadau annisgwyl i gystadlu neu ennill lle’r ydych wedi ennill heb gystadlu godi amheuaeth.
- Negeseuon annisgwyl: gan rywun nad ydych yn ei adnabod, yn enwedig os bydd yn gofyn i chi am fanylion personol a ddylai godi pryder. Peidiwch â chlicio ar ddolen yn y neges oni bai eich bod yn siŵr ei fod yn ddilys.
- Rhif neu gyfeiriad e-bost nad yw'n cael ei gydnabod: efallai y byddwch yn derbyn negeseuon sy'n ymddangos fel pe baent gan rywun yr ydych yn ei adnabod, ond gan rif neu gyfrif nad yw'n cael ei gydnabod.
- Negeseuon bancio: os yw rhywun yn honni ei fod yn dod o'ch banc ond eu bod wedi defnyddio rhif neu gyfeiriad e-bost nad yw'n cael ei gydnabod, holwch a yw'n ddilys cyn gweithredu. Bydd y rhan fwyaf o rwydweithiau symudol yn adnabod anfonwr yn awtomatig trwy roi enw busnes yn lle'r rhif. Gwiriwch gyda chyfathrebiadau cyfreithlon eraill bod y cyfeiriad e-bost neu rif ffôn yr un fath a chysylltwch â’r cwmni’n uniongyrchol drwy ymweld â’ch cangen agosaf neu ffonio’r rhif a ddangosir ar eich cyfriflen banc i wirio a yw’n ddilys.
- Yn cwestiynu pryniannau: gallai galwadau neu negeseuon testun gan adwerthwr lle’r ydych wedi prynu rhywbeth fod yn amheus yn enwedig os ydynt yn gofyn am eich manylion personol. Gofynnwch iddynt ddarparu cyfeirnod (fel anfoneb neu rif prynwr) i gadarnhau a ydynt yn ddilys.
- Manylion diogelwch personol: ni fyddai cwmni dilys yn gofyn i chi roi manylion personol a allai eich gadael yn agored i dwyll. Os gofynnwyd i chi ddarparu cyfrinair neu PIN cyflawn, peidiwch â dweud wrthynt.
- Penderfyniadau cyflym: bydd sgamwyr eisiau i chi weithredu'n gyflym fel nad oes gennych amser i feddwl. Os gofynnwyd i chi wneud penderfyniad am rywbeth sy’n ymwneud ag arian yn gyflym, byddwch yn amheus. Gofynnwch i'w ffonio yn ôl i roi amser i chi.
- Gwallau sillafu/gramadeg: os yw unrhyw gyfathrebiadau a anfonir yn cynnwys gwallau sillafu neu wallau gramadegol, gall hyn fod yn arwydd o sgam.