Pa mor gyffredin yw sgamiau a thwyll ar y rhyngrwyd?
Mae sgamiau a thwyll yn gyffredin iawn ar y rhyngrwyd, ac felly mae'n bwysig bod yn barod. Canfu ymchwil a gynhaliwyd yn 2022 ar ran Ofcom:
- Mae bron i 9 o bob 10 o oedolion sy'n defnyddio'r rhyngrwyd (87%) wedi dod ar draws cynnwys ar-lein y maent yn credu ei fod yn sgam neu'n dwyll.
- Dywedodd bron i hanner (46%) y defnyddwyr rhyngrwyd sy'n oedolion eu bod wedi cael eu denu'n bersonol i gymryd rhan mewn sgam ar-lein neu dwyll.
- Dywedodd 39% eu bod yn adnabod rhywun oedd wedi dioddef sgam ar-lein neu dwyll.
- Collodd 25% o'r rhai a ddaeth ar draws sgam neu dwyll arian o ganlyniad i hyn.
- Dywedodd traean (34%) fod y sgam neu'r twyll wedi cael effaith negyddol uniongyrchol ar eu hiechyd meddwl.
- Y mathau mwyaf cyffredin o sgamiau neu dwyll a brofir yw:
- Twyll dynwared (51%)
- Nwyddau ffug (42%)
- Sgamiau buddsoddi, pensiwn, neu sgamiau “dod yn gyfoethog yn gyflym” eraill (40%)
- Twyll meddalwedd cyfrifiadurol neu sgamiau ransomware (37%)
- Y lle mwyaf tebygol o ddod ar draws sgamwyr neu dwyll ar-lein yw e-bost (30%) a ffrydiau newyddion cyfryngau cymdeithasol (12%). Y ffordd fwyaf cyffredin o gysylltu â dioddefwyr posibl yw drwy neges uniongyrchol ar cyfryngau cymdeithasol (41%).
- Yn ôl Ofcom, er y gall unrhyw un ddioddef sgamiau, gallai rhai gwendidau eu gwneud yn fwy tebygol, gan gynnwys:
- Anawsterau gwybyddol gan gynnwys niwroamrywiaeth a dementia,
- Unigrwydd neu awydd am gysylltiad,
- Dyled, yr argyfwng costau byw, neu awydd i ddod yn gyfoethog yn gyflym,
- Hunan-barch isel,
- Tyfu i fyny gydag ymlyniadau neu berthnasoedd ansicr, fel cam-drin emosiynol plentyndod neu rieni absennol.
Yn ogystal, canfu’r Sefydliad Polisi Arian ac Iechyd Meddwl fod pobl â phroblemau iechyd meddwl deirgwaith yn fwy tebygol o ddioddef sgam ar-lein.
Mae hyn yn golygu, gyda straen ynghylch yr argyfwng costau byw a chyfraddau llog morgeisi cynyddol, bod atal sgam a thwyll fod yn bwysicach nawr nag erioed, yn enwedig i bobl ag afiechyd meddwl.