Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
Os ydych yn cael trafferth gyda dyledion, mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda chynghorydd dyled arbenigol. Bydd cynghorydd dyled yn medru sicrhau eich bod yn ymwybodol o’r opsiynau sydd ar gael i chi. Maent hefyd yn medru esbonio sut y bydd pob opsiwn yn effeithio arnoch.
Ni ddylech gytuno i dalu rhywun sydd yn eich helpu gyda’ch dyled gan y bydd llawer o fudiadau yn medru eich helpu chi am ddim.
Pan fyddwch yn siarad gyda chynghorydd dyled, byddant yn gofyn rhai cwestiynau am eich amgylchiadau a’r dyledion sydd gennych. Unwaith eu bod yn deall eich sefyllfa, mae cynghorydd dyled yn medru:
- Esbonio sut y mae modd i chi fanteisio ar eich incwm,
- Helpu chi i’ch llunio taflen gyllideb,
- Helpu chi i flaenoriaethu eich dyledion, a
- Esbonio’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer delio gyda dyledion a’r rhai sydd yn briodol i chi.
Bydd rhai mudiadau ond yn cynnig cyngor ‘hunangymorth’ sydd yn golygu eu bod yn medru cynnig cyngor i chi ar eich opsiynau ond bydd rhaid i chi gysylltu gyda’ch credydwyr a chwblhau unrhyw ffurflenni eich hun.
Bydd rhai mudiadau ond yn cynnig cyngor ‘hunangymorth’ sydd yn golygu eu bod yn medru cynnig cyngor i chi ar eich opsiynau.
Mae mudiadau eraill yn medru cynnig gwasanaeth gwaith achos sydd yn golygu y byddant yn chwarae rôl fwy gweithgar yn eich helpu i ddelio gyda dyledion. Mae hyn yn medru cynnwys cysylltu gyda chredydwr ar eich rhan.