Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
Mae Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (GRhD) yn opsiwn rhatach na mynd yn fethdalwr.
Mae Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (GRhD) yn opsiwn rhatach na mynd yn fethdalwr. Mae ond modd i chi gael GRhD os ydych yn cwrdd â’r meini prawf canlynol:
- Rydych mewn llai o ddyled na £20,000
- Os ydych yn meddu ar gar, rhaid ei fod yn werth llai na £1,000
- Nid ydych yn berchen ar ddim byd arall a allai gael ei werthu am fwy na £1,000
- Nid oes llai na £50 yn weddill genych bob mis ar ôl i chi dalu’r treuliau hanfodol
- Rydych wedi byw neu weithio yn Lloegr neu Gymru am y 3 blynedd ddiwethaf
- Nid ydych wedi gwneud cais am GRhD yn y 6 mlynedd ddiwethaf
Er mwyn gwneud cais am GRhD, bydd rhaid i chi siarad gyda ‘Approved Intermediary’. Mae’r manylion cyswllt ar gyfer holl fudiadau yma i’w gweld yn yr adran ‘cysylltiadau defnyddiol’.
Er mwyn gwneud cais am GRhD, bydd angen i chi dal ffi un-tro o £90. Mae modd i chi dalu hyn fel un taliad neu gyfres o daliadau. Os nad yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael ad-daliad o £90.
Unwaith y mae GRhD yn cael ei drefnu, ni fydd rhaid i chi dalu dim byd i’ch credydwyr am flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn hon, ni fydd hawl gan eich credydwyr i ofyn am unrhyw arian gennych i dalu eich dyledion. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd eich dyledion yn cael eu dileu os ydych dal yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol.
Os nad ydych yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol ar ddiwedd y 12 mis, bydd rhaid i chi ddechrau talu’r dyledion eto.
Pwyntiau pwysig i’w cofio am GRhD:
- Byddai GRhD yn rhoi seibiant o 12 mis i chi o’ch taliadau a’ch credydwyr. Wedi hyn, bydd eich dyledion yn cael eu dileu.
- Rhaid i chi dalu’r ffi £90 cyn gwneud cais. Rydych yn medru talu hyn mewn cyfres o daliadau. Nid ydych yn derbyn ad-daliad o’r arian yma os ydych yn cael eich gwrthod os nad ydych yn cwrdd â’r meini prawf.
Bydd GRhD yn ymddangos ar eich ffeil hanes credyd am 6 mlynedd. Mae hyn yn golygu y bydd hi’n anodd i gael credyd yn y dyfodol.