Gorchymyn Gweinyddu
Mae gorchymyn gweinyddu (GG) yn eich caniatáu i wneud un taliad fforddiadwy i'r llys sirol bob mis. Mae’r arian wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r credydwr.
Mae gorchymyn gweinyddu (GG) yn eich caniatáu i wneud un taliad fforddiadwy i'r llys sirol bob mis. Mae’r arian wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r credydwr. Tra eich bod yn gwneud eich taliadau bob mis o dan y GG, rhaid i’r credydwr dderbyn y taliad y maent yn derbyn drwy’r llys. Mae hyn yn golygu na ddylech fod yn derbyn unrhyw alwadau ffȏn neu lythyron mwyach yn gofyn am ddyledion.
Er mwyn cael GG, rhaid i chi:
- O leiaf un Dyfarniad Llys Sirol (CCJ) sydd heb ei dalu,
- O leiaf dau fath o ddyled, a
- Dim mwy na £5,000 o ddyled.
Os yw’n ymddangos y bydd hi'n cymryd mwy na thair blynedd i ad-dalu’r dyledion o dan y GG, mae’r llys yn medru gwneud gorchymyn cyfansawdd. Byddai hyn fel arfer yn cyfyngu’r cyfnod sydd yn cael ei roi i chi i hyd at dair blynedd.
Nid oes ffioedd i’w talu ymlaen llaw ar gyfer GG ond bydd y llys sirol yn cymryd 10c o bob £1 i dalu am y costau gweinyddol. Er mwyn gwneud cais am GG, rhaid i chi lenwi ffurflen gais o’r enw N92 a’i danfon i’r llys. Ni fydd rhaid i chi fynd i’r llys fel arfer neu ateb unrhyw gwestiynau pellach.
Gallwch gasglu copi o’r ffurflen o’ch llys sirol lleol neu’i lawrlwytho o wegen y llywodraeth.
Pwyntiau pwysig i’w cofio am GG:
- Mae ond modd i chi wneud cais am GG os yw credydwr wedi mynd â chi i’r llys ac wedi sicrhau Dyfarniad Llys Sirol (CCJ) yn eich erbyn.
- Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch ofyn i’ch asiantaeth cyngor leol am help gyda hyn.
- Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais.
- Nid oes hawl gan y credydwr i gymryd camau yn eich erbyn os ydych yn gwneud y taliadau o dan y gorchymyn.
- Bydd eich statws credyd eisoes wedi effeithio arnoch drwy gael CCJ yn eich erbyn.