Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
Beth yw dyled?
Mae dyled yn swm o arian sy’n ddyledus gennych i fudiad neu berson arall. Mae’r mudiad neu’r person yr ydych yn eiddo’r arian iddo yn cael ei alw’n ‘gredydwr’.
Nid yw biliau normal, er enghraifft, rhent, morgais neu filiau drydan yn ddyledion. Maent yn dreuliau hanfodol Os ydych yn methu â thalu’r dyledion yma, mae’r arian sy’n ddyledus yn cael ei alw’n ddyled.
Ceisiwch wahanu eich dyledion i mewn i ddau grŵp. Rydych yn medru sicrhau bod y dyledion pwysicaf yn cael eu talu’n gyntaf. Y ddau gategori yw dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth.
Dyled sy’n flaenoriaeth
Mae dyled sy’n flaenoriaeth yn golygu y byddech yn colli rhywbeth os nad ydych yn ei dalu. Yn sgil y ffaith eich bod yn mynd i golli rhywbeth, mae’r dyledion yma yn bwysicach nag eraill. Os oes dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth gennych, mae’n hanfodol eich bod yn delio gyda’r dyledion sy’n flaenoriaeth yn gyntaf.
Esiampl o ddyled sy’n flaenoriaeth |
Yr hyn sy’n digwydd os nad ydych yn talu |
Morgais neu ôl-ddyledion benthyciad diogel |
Adfeddiannu’r eiddo |
Ôl-ddyledion rent |
Taflu allan o’ch eiddo |
Ôl-ddyledion treth cyngor |
Carchar (os ydych yn gwrthod neu’n esgeuluso talu) |
Ôl-ddyledion nwy / trydan |
Datgysylltu |
Dirwyon gan lysoedd yr ynadon |
Carchar |
Ôl-ddyledion cynhaliaeth plant |
Carchar / gwahardd rhag gyrru (os ydych yn gwrthod neu’n esgeuluso talu) |
Ôl-ddyledion prynu / llogi |
Adfeddiannu’r hyn sydd wedi ei brynu / llogi |
Dyled na sy’n flaenoriaeth
Mae dyled na sy’n flaenoriaeth yn medru cynnwys cardiau credyd, benthyciadau diogel a gorddrafft. Mae hefyd deuluoedd a ffrindiau.
Dylai holl gredydwyr y dyledion na sy’n flaenoriaeth gael eu trin yn deg. Ni ddylech wneud taliadau llawn i un credydwr tra’n lleihau’r swm sydd yn cael ei dalu i un arall. Os nad ydych yn medru fforddio isafswm sydd i’w dalu i unrhyw un o’ch credydwyr, dylech wneud taliadau llai iddynt hwy oll ar raddfa pro rata. Mae modd i chi ganfod mwy am hyn yn yr adran hunan-negodi.
Bydd cynghorydd dyled yn eich helpu chi i wahaniaethu rhwng y dyledion sy’n flaenoriaeth a’r hyn na sy’n flaenoriaeth a’n esbonio'r hyn sydd ar gael iddynt ddelio gyda hwy. Mae modd i chi ganfod cynghorydd dyled yn ein hadran cysylltiadau defnyddiol.