Cyfrifon banc a dyledion
Mae'n bwysig eich bod yn sicrhau bod eich incwm yn cael ei dalu i gyfrif banc neu gymdeithasu adeiladu na sydd yn gysylltiedig gydag unrhyw un o'ch dyledion.
Mae eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn medru tynnu arian o’ch cyfrif os oes gennych ddyled gyda’r un grŵp bancio. Felly, er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd, mae’n bwysig eich bod yn trefnu bod eich holl incwm yn cael ei dalu i gyfrif na sydd yn gysylltiedig ag unrhyw un o’ch dyledion. Mae gwefan y Lending Standards Board yn rhestru’r prif grwpiau bancio.
Os ydych angen agor cyfrif newydd, dylech ofyn am gyfrif safonol. Dyma gyfrif na sydd yn meddu ar gyfleuster gredyd (er enghraifft gorddrafft). Mae modd talu eich cyflog neu’ch budd-daliadau i’r cyfrif yma. Rydych dal yn medru tynnu arian o beiriant twll yn y wal a threfnu gorchmynion sefydlog a debydau uniongyrchol.
Os ydych yn gwneud cais am gyfrif banc sylfaenol, ni ddylai eich hanes/cefndir credyd effeithio ar eich cais. Mae mwy o wybodaeth am gyfrifon banc sylfaenol ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Arian.