Mae help am ddim ar gael
Os ydych wedi cael benthyciad pan nad oeddech yn meddu ar y 'galluedd', dylech gael cyngor cyn gynted ag sydd yn bosib.
Mae’n bwysig eich bod yn ymateb yn gyflym tra bod yna dystiolaeth dal ar gael o’r hyn sydd wedi digwydd. Gallwch gysylltu gyda:
National Debtline
Mae’r mudiad yma yn darparu cyngor am ddim sydd yn annibynnol a’n gyfrinachol ynglŷn â dyledion. Mae modd i chi gysylltu gyda hwy dros y ffȏn, ar e-bost neu mewn llythyr.
Ffȏn: 0808 808 4000 (Llun i Gwener 9am - 8pm a Sadwrn 9.30am - 1pm)
StepChange
Mae StepChange yn darparu cyngor a chymorth am ddim sydd yn gyfrinachol ac ar gyfer unrhyw un sydd yn poeni ynglŷn â dyledion. Mae modd i chi gysylltu gyda hwy dros y ffȏn neu ar-lein.
Ffȏn: 0800 138 1111 (Dydd Llun i Gwener 8am - 8pm a Dydd Sadwrn 8am - 4pm)
Os oes cerdyn credyd gennych a’ch bod yn cael trafferth gyda’r ad-daliadau, dyled stopio ddefnyddio’r cerdyn. Os ydych yn parhau i ddefnyddio’r cerdyn, rydych wedyn yn cytuno gydag amodau’r cerdyn credyd. Mae hyn yn golygu eich bod o bosib yn gorfod ad-dalu’r arian yr ydych wedi gwario. Mae hyn yn golygu eich bod yn ‘dilysu’r’ benthyciad.