Beth yw ystyr ‘galluedd’?
Mae’r ‘capasiti’ gennych i gael benthyciad os ydych yn:
- Deall ac yn cofio’r wybodaeth am y benthyciad,
- Ystyried yr holl wybodaeth wrth benderfynu os ydych am gael y benthyciad, a
- Caniatáu i rywun wybod beth yw eich penderfyniad.
Os nad ydych yn medru gwneud un o’r pethau yma, nid ydych yn ‘meddu ar y galluedd’.
Beth sy’n digwydd os i mi drefnu benthyciad pan nad oeddwn yn meddu ar y galluedd?
Mae’n medru bod yn anodd i chi brofi nad oeddech yn meddu ar y galluedd, yn enwedig os oedd hyn sbel fach yn ôl. Mae hefyd yn medru bod yn anodd ceisio profi fod y banc neu’r benthyciwr arian yn gwybod nad oeddech yn meddu ar y galluedd.
Fodd bynnag, dylai’r benthyciwr wybod nad oeddech yn meddu ar y galluedd os:
- Roeddech wedi dweud wrthynt fod afiechyd arnoch,
- Roeddynt yn medru gweld eich bod yn ei chael hi’n anodd dilyn y sgwrs a’r hyn yr oeddynt yn ei ddweud,
- Maent yn gwybod eich bod wedi apwyntio penodai i ddelio gyda’ch budd-daliadau,
- Roedd eich twrnai, fel rhan o Bŵer Atwrneiaeth Arhosol wedi dweud wrth y benthyciwr nad oeddech yn meddu ar y galluedd,
- Mae’r benthyciwr yn gwybod bod y Llys Gwarchod wedi rhoi gorchymyn i chi,
- Roeddech wedi dweud wrth y benthyciwr eich bod am wario’r arian ar rywbeth anarferol, neu
- Rydych yn siarad am bethau anarferol neu amherthnasol pan oeddynt yn esbonio’r cytundeb benthyciad.
Y gyfraith sydd yn ymdrin â galluedd meddwl yw’r Ddeddf Galluedd Meddwl 2005.
Y gyfraith sydd yn ymdrin â galluedd meddwl yw’r Ddeddf Galluedd Meddwl 2005.