Beth wyf yn medru ei wneud os nad wyf yn medru talu fy nyled?
Mae nifer o opsiynau gennych, gan gynnwys:
- Gwneud taliadau llai a fforddiadwy,
- Cynnig un swm sylweddol fel taliad,
- Gofyn i’r benthyciwr i ddileu’r ddyled,
- Gwneud cais am orchymyn rhyddhau o ddyled, neu
- Cais i ddod yn fethdalwr
Ni fydd yr holl opsiynau yma yn gywir i chi gan fod hyn yn dibynnu ar eich sefyllfa. Mae’r pethau canlynol yn medru effeithio ar eich penderfyniad:
- Eich incwm,
- Y swm o arian sy’n ddyledus gennych,
- Y math o ddyled sydd gennych, neu
- Gwerth eich cartref ac unrhyw eiddo gwerthfawr.
Rydych yn medru derbyn cyngor am ddim ar faterion sy’n ymwneud â dyledion o National Debtline a StepChange. Ewch i’n hadran camau nesaf er mwyn cael eu manylion cyswllt.
Cyngor. chymorth cyfrinachol ac am ddim i unrhyw un sydd yn pryderi am ddyledion.