Beth ddylai banciau ei wneud er mwyn fy amddiffyn?
Mae yna ganllawiau ynglŷn â’r ffordd y dylai banciau ymddwyn. Nid yw’r canllawiau yma yn gyfreithiau. Fodd bynnag, mae banciau, benthycwyr ac asiantaethau casglu dyledion wedi cytuno i gydymffurfio gyda hwy.
Canllaw galluedd meddwl
Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi cyhoeddi canllaw i fenthycwyr. Mae’n cynnwys chwilio am arwyddion o broblemau galluedd a gosod gweithdrefnau fel bod cwsmeriaid yn medru gwneud penderfyniadau gwybodus a bod penderfyniadau am fenthyciadau i bobl sy’n agored i niwed yn rhai gwybodus a chyfrifol.
Canllaw iechyd meddwl a dyledion
Mae’r Grŵp Cyswllt Cyngor Ariannol wedi cyhoeddi canllaw o’r enw Good Practice Awareness Guidelines for Consumers with Mental Health Problems and Debt.
Mae’r canllaw yn nodi y dylai benthycwyr:
- Sicrhau bod pobl ag afiechyd meddwl yn cael eu trin yn deg,
- Gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a chynghorwyr arian,
- Cyfeirio unrhyw achosion i'r llys fel yr opsiwn olaf, a
- Ystyried dileu unrhyw ddyledion os yw person yn methu â thalu yn sgil salwch.
Os yw eich benthyciwr yn aelod o gymdeithas fasnachu, efallai bod cod ymarfer eu hunain ganddynt. Mae modd i chi ganfod hyn ar wefan y gymdeithas fasnachu. Os nad yw’r benthyciwr wedi cydymffurfio gyda’r cod, mae’n bosib i chi wneud cwyn.
Os nad yw’r benthyciwr wedi cydymffurfio gyda’r cod, mae’n bosib i chi wneud cwyn.