A yw banc yn medru benthyg i mi pan wyf yn sâl?
Os nad ydych yn medru gwneud penderfyniad dros eich hun, nid ydych wedyn yn ‘meddu ar y galluedd’.
Os ydych yn cael benthyciad a bod y benthyciwr yn gwybod nad ydych yn meddu ar y galluedd, efallai na fydd rhaid i chi ad-dalu’r ddyled.
Os ydych yn cael benthyciad a bod y benthyciwr yn gwybod nad ydych yn meddu ar y galluedd, efallai na fydd rhaid i chi ad-dalu’r ddyled.
Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi ad-dalu’r ddyled os:
- Nid oedd y benthyciwr yn gwybod nad oeddech yn meddu ar y galluedd, a
- Nid oedd unrhyw ffordd y gallai’r benthyciwr wybod nad oeddech yn meddu ar y galluedd.
Oni bai bod rheswm iddynt feddwl fel arall, bydd yr holl fanciau a chymdeithasau adeiladu yn cymryd yn ganiataol eich bod:
- Yn deall y cytundeb credyd, ac
- Yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniad am eich arian.
Os ydych yn sâl ac yn ystyried gofyn am fenthyciad, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fynd â ffrind neu ofalwr gyda chi. Maent yn medru eich helpu drwy’r broses.
Os ydych yn sâl ac yn ystyried gofyn am fenthyciad, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi fynd â ffrind neu ofalwr gyda chi.