A wyf yn medru dychwelyd pethau i mi eu prynu pan oeddwn yn sâl?
Os ydych wedi prynu rhywbeth pan oeddech yn sâl a’ch bod am ddychwelyd yr eitem, dylech wirio os yw’r siop yn meddu ar bolisi dychwelyd eitemau.
Mae llawer o bobl yn prynu pethau ar-lein, dros y ffȏn a thrwy’r post. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘werthu o bell’. Pan eich bod yn prynu eitemau gan fusnes yn y ffordd hon, mae hawl gennych i ganslo’r cytundeb o fewn 14 diwrnod o’i wneud. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘gyfnod callio’, Nid yw’r rheolau yn perthyn i eitemau sydd wedi eu personoli neu eitemau sydd yn medru dirywio’n gyflym megis blodau. Mae yna eithriadau penodol eraill.
Mae hawl gennych i ganslo’r cytundeb o fewn 14 diwrnod o’i wneud.
Er mwyn canslo’r cytundeb yn y cyfnod callio, ysgrifennwch neu e-bostiwch y busnes er mwyn rhoi gwybod iddynt eich bod am ganslo. Byddant yn dweud wrthych yr hyn sydd angen ei wneud nesaf.
Mae modd i chi gael cyngor am ddim o’r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth:
Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth
Cysylltwch gyda llinell gymorth y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth os ydych angen mwy o help.
Ffȏn: 03454 04 05 06
Er mwyn siarad gyda chynghorydd yn yr iaith Gymraeg, ffoniwch: 03454 04 05 05
Ffȏn Testun: 18001 03454 04 05 06
Ffȏn Testun - Er mwyn siarad gyda chynghorydd yn yr iaith Gymraeg, ffoniwch:18001 03454 04 05 05
Llun i Gwener, 9am - 5pm
Ar gau ar Ŵyl y Banc
Cyfeiriad: 2ail Lawr, Fairfax House, Merrion Street, Leeds, LS2 8JU
Cyswllt ar-lein: ewch i’r wefan.