Siarad ar fy rhan
Os ydych yn profi iechyd meddwl truenus, efallai na fyddwch yn teimlo fel siarad gyda’ch banc, cyflenwyr cyfleustodau neu asiantaeth casglu dyled dros y ffôn. Fel arfer, bydd mudiadau fel hyn ond yn siarad gyda phobl eraill am eich materion ariannol ar ffan os ydych wedi rhoi caniatâd ar lafar iddynt ac yna’n trosglwyddo’r ffon i’r person yr ydych am iddynt siarad â hwy ar eich rhan. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi siarad gyda’r cwmni a darparu rhai manylion amdanoch eich hun yn gyntaf er mwyn iddynt sicrhau eu bod yn siarad gyda deiliad y cyfrif.
Er mwyn eich helpu chi baratoi, ysgrifennwch yr hyn yr ydych am ei ddweud a darllenwch hwn iddynt. Os yw’r mudiad yn cymeradwyo eich cais, mae hyn yn golygu y bydd y person sydd yn siarad ar eich rhan yn medru casglu gwybodaeth megis balans eich cyfrif a’ch manylion cyswllt. Fel arfer, ni fydd y gofalwr, ffrind neu berthynas sydd yn siarad ar eich rhan yn medru gwneud newidiadau i’ch cyfrif neu gysylltu gyda’r mudiad yn barhaus.
Fel arfer, ni fydd y gofalwr, ffrind neu berthynas sydd yn siarad ar eich rhan yn medru gwneud newidiadau i’ch cyfrif neu gysylltu gyda’r mudiad yn barhaus.
Fodd bynnag, os ydych yn credu eich bod angen i rywun siarad yn fwy aml gyda mudiad ar eich rhan neu i reoli cyfrif, mae modd i chi roi caniatâd ysgrifenedig iddynt. Mae hyn yn cael ei adnabod fel llythyr awdurdod.
Mae rhai mudiadau yn cynnig polisïau gwahanol ar gyfer delio gydag awdurdod 3ydd parti ac efallai na fydd rhai yn derbyn llythyr cyffredinol o awdurdod. Os yw hyn yn digwydd, dylech ofyn i’r mudiad am ‘ffurflen mandad 3ydd parti’. Bydd hyn yn caniatáu i rywun i reoli eich cyfrif yn yr un ffordd â llythyr awdurdod.
Gan fod yna bolisïau gwahanol ar gyfer delio gyda 3ydd parti, mae’n werth cysylltu gyda’r mudiad yn gyntaf er mwyn cadarnhau’r ffordd orau i ddelio gyda hyn.