Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu’n gyntaf?
Mae yna rai biliau y mae’n rhaid eu talu ac yn fwy pwysig nag eraill. Os nad yw’r taliadau yma yn cael eu gwneud, byddwch o bosib mewn risg o golli rhywbeth pwysig. Er enghraifft, os nad ydych yn talu rhent, efallai y bydd yna risg uwch y byddwch yn cael eich taflu allan o’r tŷ neu efallai y bydd eich trydan yn cael ei ddatgysylltu os nad ydych yn talu’r biliau trydan. Mae’r taliadau yma yn cael eu galw’n ‘daliadau blaenoriaeth’.
Dyma rai enghreifftiau pellach:
|
Nid yw gwneud taliadau i gardiau credyd, benthyciadau na sy’n ddiogel, catalogau, gorddrafft a chardiau’r siopau, yn cael eu hystyried fel taliadau blaenoriaeth.
Nid yw gwneud taliadau i gardiau credyd, benthyciadau na sy’n ddiogel, catalogau, gorddrafft a chardiau’r siopau, yn cael eu hystyried fel taliadau blaenoriaeth. Mae colli taliadau o’r fath yn medru effeithio ar eich hanes credyd ac yn medru ei gwneud hi’n fwy anodd i drefnu credyd yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid oes yna unrhyw risg brys os nad yw’r dyledion yma yn cael eu talu.
Os oes rhywun arall yn delio gyda’ch arian, mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod y biliau blaenoriaeth yn cael eu talu cyn unrhyw ddyledion eraill. Os nad oes digon o arian gennych i dalu eich biliau pwysig neu’r isafsymiau sydd angen i dalu eich dyledion, dylech ofyn am gyngor gan gynghorydd arian.