Hawlio budd-daliadau
Os ydych yn cael trafferth delio gyda’r system fudd-daliadau, efallai eich bod yn medru cael person yr ydych yn ymddiried ynddo i hawlio budd-daliadau ar eich rhan. Mae hyn yn cael ei adnabod fel eich bod yn meddu ar ‘benodai’.

Os ydych am i rywun gael ei wneud yn ‘benodai’, rhaid i chi i roi gwybod i’r swyddfa leol o’ch Adran Waith a Phensiynau a chwblhau ffurflen BF56. Byddant yn dweud o bosib bod rhaid iddynt ymweld â chi a’ch gofalwr, ffrind neu berthynas cyn penderfynu a oes modd apwyntio’r person hwn yn ‘benodai’.
Mae modd i chi gysylltu hefyd gyda’r awdurdod lleol o ran ceisiadau am fudd-dal tai a/neu gymorth treth cyngor. Os yw awdurdod lleol wedi apwyntio rhywun fel eich ‘penodai’, gallwch ddarparu tystiolaeth o hyn i’r Adran Waith a Phensiynau fel eu bod yn medru apwyntio’r un person fel ‘penodai’ ar gyfer eich budd-daliadau eraill a vice versa.