prif awgrymiadau
Pam fod y gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac arian
Yn y gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian, rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi pobl y mae problemau iechyd meddwl ac ariannol yn effeithio arnynt. Ac rydym yn benderfynol o gynnig cymorth a chefnogaeth i’r rhai mewn angen.
Beth yw'r cysylltiad rhwng afiechyd meddwl a phroblemau ariannol
Mae cyflwr iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar o bobl, ac o’r rhain, bydd bron i bedair miliwn yn cael trafferthion ariannol. Yn ogystal, mae pedair miliwn arall o bobl mewn perygl o ddatblygu afiechyd meddwl o ganlyniad uniongyrchol i’w sefyllfa ariannol.
Gyda diffyg cefnogaeth, gall materion ariannol ynghyd â salwch meddwl greu cylch dieflig. Ar ei waethaf, gall hyn arwain at ddyledion cynyddol, problemau teuluol a digartrefedd.
Un o’r prif bryderon i lawer o bobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl a phroblemau ariannol yw system budd-daliadau’r DU.
Mae llawer yn gweld y system budd-daliadau yn gymhleth ac yn straen emosiynol. Wrth gyfathrebu â phobl â chyflwr iechyd meddwl, mae’n amlwg na all y broses budd-daliadau asesu cymhlethdodau’r hyn y mae byw gyda chyflwr iechyd meddwl yn ei olygu.
Sut y gall y gwasanaeth Iechyd Meddwl a Chyngor Ariannol eich helpu
Yma yn y gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian, mae ein gwefan wedi’i dylunio’n benodol i gynnig cyngor cryno a diduedd i bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl ac ariannol.
Rydym yn darparu gwybodaeth a chymorth am ddim drwy ein cronfa wybodaeth hawdd ei defnyddio i unrhyw un y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt, gan gynnwys gofalwyr, aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Mae’r wefan yn cynnig cyngor manwl ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:
- Rydym yn cynnig cyngor arbenigol ar y materion mwyaf cyffredin sy'n ymwneud ag iechyd meddwl ac arian megis budd-daliadau lles, rheoli arian a dyled a gofal a thriniaeth iechyd meddwl.
- Offer a chyfrifianellau am ddim i'ch helpu i reoli'ch arian yn well.
- I'ch helpu i ddelio â materion ariannol rydym wedi creu ystod o lythyrau enghreifftiol a thempledi y gellir eu defnyddio i gysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sefydliadau a chredydwyr.
- Mae gennym lawer o straeon bywyd go iawn person cyntaf lle mae pobl mewn sefyllfaoedd tebyg yn esbonio sut maent wedi goresgyn eu problemau iechyd meddwl ac arian.
- Ar gyfer pob maes cyngor, rydym yn darparu rhestr o gysylltiadau defnyddiol rhag ofn y byddwch angen arweiniad manylach.
"Mae gennym hefyd dîm bach o arbenigwyr iechyd meddwl a chyngor ariannol ymroddedig sy'n cynnig cyngor un-i-un a gwaith achos dros y ffôn."
Gwasanaeth cynghor un-i-un
Mae gennym hefyd dîm bach o arbenigwyr cyngor iechyd meddwl ac arian ymroddedig sy'n cynnig cyngor un-i-un a gwaith achos dros y ffôn.
Mae ond modd defnyddio’r llinell gyngor drwy gael eich atgyfeirio yn unig gan ein helusen yng Nghymru:
- Adferiad Recovery (Cymru): 01792 816600
Yn ogystal, mae yna 3 phartner atgyfeirio y gallwch gysylltu â nhw am gymorth a gallant hefyd eich cyfeirio at ein gwasanaeth cynghori os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.
- Llinell Ddyled Genedlaethol: 0808 808 4000
- StepChange: 0800 138 1111
- Cynorthwyydd Arian: 0800 011 379
I gael rhagor o gymorth, edrychwch ar yr adran Cymorth a Chysylltiadau ar ein gwefan. Bydd hyn yn rhoi mynediad hawdd i chi at sefydliadau dibynadwy eraill sy'n gallu cynnig cyngor penodol yn ymwneud â naill ai iechyd meddwl neu faterion ariannol.