Beth yw gofal cymdeithasol ac a fydd rhaid i mi dalu?
Mae gwasanaeth gofal cymdeithasol yn wasanaeth yr ydych yn derbyn er mwyn diwallu eich anghenion gofal cymdeithasol yn y gymuned. Mae’r gwasanaethau yma yn eich helpu chi wella eich lles a’ch helpu i fyw’n annibynnol.
Mae gwasanaeth gofal cymdeithasol yn wasanaeth yr ydych yn derbyn er mwyn diwallu eich anghenion gofal cymdeithasol yn y gymuned. Mae’r gwasanaethau yma yn eich helpu chi wella eich lles a’ch helpu i fyw’n annibynnol Mae’n medru cynnwys:
- Help yn y cartref
- Trefnu prydau bwyd
- Gweithgareddau megis mynd ar deithiau
- Help gydag addysg
- Mynd i ganolfan ddydd
Nid yw hyn yn cynnwys llety â chymorth neu lety preswyl. Mae’r ffioedd am ofal preswyl yn wahanol i’r mathau yma o wasanaethau cymunedol.
Pa wasanaethau y mae’r awdurdodau lleol yn medru codi tâl amdanynt?
Mae’r awdurdod lleol yn medru codi tâl am y rhan fwyaf o wasanaethau gofal cymdeithasol ac eithrio:
- Cyngor am wasanaethau,
- Asesiad gofal cymdeithasol,
- Gwasanaethau yr ydych yn derbyn o dan adran 117 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl,
- Cost y cyfarpar cymunedol megis clustogau a theclyn i’ch helpu chi bigo rhywbeth o’r llawr neu i wisgo eich hun,
- Newidiadau i’ch cartref sydd yn costio llai £1000, megis gosod rheiliau neu ddrysau, neu
- Gofal canolraddol, gan gynnwys ail-alluogi, am gyfnod o 6 wythnos gyda’r awdurdod lleol yn darparu help yn ôl disgresiwn ar ôl 6 wythnos. Efallai y byddwch yn medru derbyn help gan y Grant Cyfleusterau Anabl am gostau sydd yn uwch na £1000.
Mae gwasanaethau gofal canolraddol ac ail-alluogi yn wasanaethau y mae’r awdurdod lleol neu’r GIG yn rhoi i bobl pan fyddant wedi bod yn yr ysbyty. Maent yno i helpu pobl i fyw’n fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Bydd yr awdurdod lleol a’r GIG yn trefnu’r gofal hwn ar ôl anaf neu gyflwr iechyd hirdymor.
Mae’r awdurdod lleol yn medru codi tâl ar gyfer prydau bwyd yn y cartref neu ofal ‘yn y dydd’, help domestig, gofal cartref personol, gwasanaethau dydd a mathau eraill o help gan wasanaethau cymdeithasol.
Faint y mae’r awdurdod lleol yn medru gofyn i mi dalu?
Nid oes yna ffi gyffredinol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’r awdurdodau lleol yn meddu ar eu ffyrdd eu hunain o gynnal asesiadau cyllidol. Mae’n rhaid iddynt sicrhau bod yr asesiad cyllidol yn:
- Eglur,
- Yn cael ei wneud mewn cyfnod rhesymol, a
- Yn ddigon i dalu am eich anghenion.
Ni ddylent ofyn i neb dalu yn fwy nag y mae’n medru fforddio talu. Mae angen i’r awdurdod lleol i sicrhau bod pawb yn meddu ar isafswm y mae modd i chi ddefnyddio er mwyn cynnal eich hun. Dylai’r isafswm yma fod yn cyfateb i’r gyfradd safonol o Gymorth Incwm neu’r Credyd Pensiwn Gwarant a byffer o isafswm o 35%; gan gynnwys lwfans pellach o 10% o leiaf o’r gyfradd safonol mewn cydnabyddiaeth o ‘wariant yn ymwneud ag anabledd’. Yn 2017-2018, y gyfradd safonol o gymorth incwm yw £73.10 os ydych yn 25 a’n hŷn neu £57.90 os ydych o dan 25.
Beth yw asesiad cyllidol?
Os yw awdurdod lleol yn penderfynu gofyn i chi dalu am ofal cymdeithasol, a hynny yn dilyn asesiad, mae’n rhaid iddynt gynnal asesiad ariannol. Bydd hyn yn cadarnhau faint y bydd rhaid i chi dalu tuag at gost eich gofal. Byddant yn eich asesu fel unigolyn ac ni fyddant yn ystyried incwm eich partner. Bydd angen i chi rhoi gwybodaeth i’r awdurdod lleol am eich incwm a’ch cyfalaf.
Dylai’r awdurdod lleol ystyried unrhyw gostau ychwanegol sydd gennych yn sgil eich anabledd. Mae hyn yn cael ei adnabod fel gwariant sy’n ymwneud ag anabledd. Dylai’r awdurdod lleol ddiystyru unrhyw incwm yr ydych yn defnyddio i dalu’r costau yma. Mae hyn yn medru cynnwys:
- Costau trafnidiaeth i fynd i ganolfan ddydd (pan fydd yn fwy na’r elfen symudedd o’r Taliad Annibynnol Personal/Lwfans Byw i’r Anabl)
- Gofal yn y dydd neu’r nos na sydd yn cael ei drefnu gan yr awdurdod lleol,
- Costau cymorth personol,
- Costau gwresogi ychwanegol, neu
- Costau ychwanegol er mwyn talu am gyfarpar, dillad neu ddillad gwely.
Sut y mae fy incwm a chynilion yn cael eu hystyried?
Incwm
Bydd yr awdurdod lleol yn ystyried eich incwm er mwyn penderfynu a oes rhaid i chi dalu. Os ydych yn derbyn cyflog gan gyflogwr neu’n hunangyflogedig, ni fydd yr awdurdod lleol yn cynnwys yr incwm yna.
Bydd yr awdurdodau lleol yn ystyried yr holl fudd-daliadau yr ydych yn derbyn ond yn anwybyddu’r budd-daliadau sydd wedi eu rhestru isod:
- Taliadau Uniongyrchol
- Taliadau Incwm Gwarant ar gyfer cyn-filwyr o Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
- Elfen symudedd y Lwfans Byw i’r Anabl a Thaliadau Annibynnol Personol
Efallai bod yr Adran Waith a Phensiynau wedi lleihau eich taliadau budd-daliadau yn sgil unrhyw gosbau neu os ydynt wedi eich gordalu. Bydd yr awdurdod lleol yn eich asesu ar faint y dylech fod yn derbyn ac nid yr hyn ar yr ydych yn derbyn.
Mae yna incwm na fydd yr awdurdod lleol yn cynnwys: maent wedi eu rhestru isod:
- Taliadau Cymorth Cynnal Plant
- Budd-daliadau Plant
- Credydau Treth Plant
Ni ddylai’r awdurdod lleol gynnwys incwm eich gofalwr na’ch perthynas. Ni ddylent byth ofyn iddynt i dalu am eich gwasanaethau oni bai eu bod yn gofalu am eich arian ar eich rhan.
Incwm tybiannol
Mae incwm tybiannol yn arian nad ydych yn derbyn ond sydd yn cael ei ystyried gan yr awdurdod lleol fel rhan o’r asesiad ariannol.
Mae incwm tybiannol yn medru cynnwys:
- Incwm yr ydych yn gymwys i’w dderbyn od rhaid i chi wneud cais amdani, megis pensiwn
- Incwm sydd i’w dalu i chi ond nid ydych wedi ei dderbyn eto, neu
- Incwm yr ydych wedi cael gwared ohono ar bwrpas er mwyn lleihau faint y mae’n rhaid i chi dalu. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘asedau wedi eu hamddifadu’
Mae enghreifftiau o ‘asedau wedi’u hamddifadu’ yn medru cynnwys:
- Rhoi arian i eraill fel anrheg
- Mynd ar wyliau drud, neu
- Gwario llawer o arian ar eich ffordd o fyw megis mynd allan dipyn yn fwy nag arfer neu siopa dipyn er mwyn gwario arian ychwanegol
Cynilion a chyfalaf
Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried unrhyw gynilion a chyfalaf sydd gennych ynghyd â’ch incwm. Nid yw hyn yn cynnwys gwerth y cartref yr ydych yn byw ynddo am y rhan fwyaf o’r amser.
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Rhan 4 a 5 o’r Cod Ymarfer (Gosod Ffioedd ac Asesiadau Ariannol), Llywodraeth Cymru (fersiwn 4 – Ebrill 2019)
Os yw eich cyfalaf a’ch cynilion yn llai na £50,000, ni ddylech fod yn gorfod talu dim byd. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar faint o incwm gwario sydd gennych, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn gofyn i chi dalu rhywbeth tuag at eich costau gofal. Dylech ofyn i’ch awdurdod lleol am hyn gan y byddant yn meddu ar eu polisi eu hunain.
Os yw eich cyfalaf a’ch cynilion yn uwch na £50,000, yna bydd rhaid i chi dalu am holl gostau eich gofal cymdeithasol, a hynny hyd at uchafswm o £90 yr wythnos, doed a ddelo pa wasanaethau neu gyfuniad o wasanaethau yr ydych yn derbyn.
Nid oes hawl gan yr awdurdod i godi tâl i rywun sydd yn uwch na’r gost o ddarparu’r gwasanaeth yn y lle cyntaf, doed a ddelo beth yw’r amgylchiadau ariannol y defnyddwyr gwasanaeth.
Sut wyf yn canfod mwy am y ffioedd?
Bydd yr awdurdod lleol yn dweud wrthoch chi beth yw eich cyllideb bersonol pan fyddant wedi cwblhau eich cynllun gofal a chymorth. Bydd eich cyllideb bersonol yn dangos a oes rhaid i chi dalu unrhyw beth. Byddwch chi a’ch awdurdod lleol yn cytuno ar y ffioedd yma ar ddiwedd y broses o gynllunio gofal a chymorth.
Dylai eich cyllideb bersonol fod yn ddigon i gwrdd â’r anghenion sydd yn eich cynllun gofal a chymorth. Rydych chi, eich gofalwr, neu’ch eiriolydd yn medru herio’r symiau terfynol yn ystod y camau cynllunio neu derfynol o'ch cyllideb bersonol. Os nad ydych yn hapus ynglŷn â’r ffordd y mae’r awdurdod lleol wedi delio gyda’ch achos, efallai eich bod am gwyno.