Beth yw cyllideb bersonol?
Dyma’r arian yr ydych yn derbyn gan wasanaethau cymdeithasol er mwyn gwario ar y gwasanaethau yr ydych yn eu dymuno.
Pan eich bod yn meddu ar gynllun gofal a chymorth, byddwch yn derbyn cyllideb bersonol. Dyma’r arian yr ydych yn derbyn gan wasanaethau cymdeithasol er mwyn gwario ar y gwasanaethau yr ydych yn eu dymuno. Bydd eich cyllideb bersonol yn esbonio:
- Cost eich gofal
- Faint y bydd rhaid i chi dalu am eich gofal, a
- Faint y bydd eich awdurdod lleol yn talu am eich gofal.
Mae’r rheolau sy’n ymwneud ag awdurdodau lleol yn rhoi arian i chi am eich cyllideb bersonol yr un peth â’r rheolau o ran ffioedd. Unwaith y maent wedi asesu eich anghenion ac wedi penderfynu ar eich cyllideb bersonol, byddant yn dewis a oes angen i chi dalu unrhyw beth. Dylai’r awdurdod lleol adolygu eich cynllun chwech i wyth wythnos ar ôl i chi ei arwyddo ac yna bob 12 mis.