A fydd rhaid i mi dalu os yw Adran 117 yn berthnasol i mi?
Os ydych o dan adran 117, byddwch yn derbyn gwasanaethau ôl-ofal yn rhad ac am ddim.
Rydych o dan adran 117 os ydych wedi eich rhyddhau o adrannau penodol o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Os ydych o dan adran 117, byddwch yn derbyn gwasanaethau ôl-ofal yn rhad ac am ddim. Yr awdurdod lleol neu’r grŵp comisiynu clinigol ble ydych yn byw fydd yn gyfrifol am eich ôl-ofal. Os nad oeddech wedi byw mewn llety arferol cyn mynd i’r ysbyty, yr awdurdod lleol lle y mae eich ysbyty fydd yn gyfrifol.