Sut y bydd yr awdurdod lleol yn asesu fy incwm?
Mae eich incwm yn medru cynnwys y rhan fwyaf o fudd-daliadau a phensiynau personol. Mae rhai o’r budd-daliadau na sydd yn cael eu cynnwys fel a ganlyn:
- Elfen symudedd o’r lwfans byw’n anabl
- Elfen symudedd o’r taliad annibynnol personol
- Budd-dal plant
- Credyd treth plant
Dyma rai o’r budd-daliadau cyffredin na sydd wedi eu cynnwys. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Os yw’r awdurdod lleol yn trin eich budd-daliadau sy’n ymwneud ag anabledd fel incwm, dylent ystyried hefyd os ydych yn gorfod talu unrhyw gostau yn sgil eich anabledd. Er enghraifft, efallai y byddant yn rhoi arian ychwanegol i chi dalu am ofalwr yr ydych wedi trefnu eich hun.
Nid yw unrhyw incwm yr ydych yn derbyn o fod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn cael ei ystyried. Mae yna rai mathau eraill o incwm na sydd yn cael ei ystyried megis cynhaliaeth plant.
Nid yw unrhyw incwm yr ydych yn derbyn o fod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig yn cael ei ystyried. Mae yna rai mathau eraill o incwm na sydd yn cael ei ystyried megis cynhaliaeth plant.
Mae’r un rheolau yn berthnasol pan yn asesu incwm tybiannol ag sy’n berthnasol pan yn asesu cyfalaf tybiannol. Er enghraifft, os oes pensiwn gennych ond eich bod wedi penderfynu peidio â’i hawlio, yna’r mae’r awdurdod lleol yn medru eich trin fel pe baech yn derbyn y pensiwn.