Beth yw ffioedd atodol?
Rydych chi neu’ch teulu yn medru talu ychydig yn fwy am lety os ydych yn dymuno rhywle mwy drud i fyw ynddo.
Rhaid i’r awdurdod lleol roi gwasanaethau i chi sydd yn diwallu eich anghenion, ac nid oes ots am y costau. Fodd bynnag, rydych chi neu’ch teulu yn medru talu ychydig yn fwy am lety os ydych yn dymuno rhywle mwy drud i fyw ynddo. Mae’r rhain yn cael eu galw’n ffioedd atodol. Nid yw’r awdurdod lleol yn medru eich gosod unrhyw le ac yna disgwyl i chi dalu’r costau ychwanegol os nad ydych angen hyn.
Mae’r ffioedd atodol yn golygu’r gwahaniaeth rhwng eich cyllideb bersonol a chost y cartref gofal yr ydych am fynd iddo. Mae hyn yn golygu bod eich cyllideb bersonol yn £200 yr wythnos ond rydych am fynd i gartref gofal sydd yn costio mwy na £300 yr wythnos. Efallai bod hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth £100 yr wythnos.
Os ydych yn gwneud hyn, rhaid i chi arwyddo cytundeb gyda’r awdurdod lleol. Bydd y cytundeb hwn yn sicrhau eich bod yn medru fforddio cost y ffioedd atodol. Bydd y cytundeb hwn yn penderfynu pa mor aml yw eich ffioedd atodol ac i bwy y maent yn talu’r arian.
Os nad ydych yn talu’r ffioedd atodol yma, efallai y bydd rhaid i chi symud i le gwahanol o fewn eich cyllideb bersonol.
Bydd yr awdurdod lleol yn adolygu’r cytundeb o dro i dro. Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o unrhyw gynnydd mewn ffioedd a byddant yn rhannu hyn.