Beth os nad wyf yn medru fforddio’r ffioedd?
Os ydych yn teimlo nad ydych yn medru fforddio’r tâl sydd yn cael ei godi gan yr awdurdod lleol, dylech ddweud wrth rywun sydd yn gweithio yn yr awdurdod lleol.
Os ydych yn teimlo nad ydych yn medru fforddio’r tâl sydd yn cael ei godi gan yr awdurdod lleol, dylech ddweud wrth rywun sydd yn gweithio yn yr awdurdod lleol. Dylech siarad gyda’r person sydd wedi cynnal eich asesiad. Gallwch ofyn am adolygiad o’ch sefyllfa.
Os nad ydych yn talu’r ffioedd y mae’r awdurdod lleol yn gofyn i chi dalu, efallai y byddant yn cysylltu gyda chi er mwyn gofyn i chi esbonio pam nad ydych wedi eich talu. Efallai y byddant yn gofyn i chi ad-dalu’r arian sydd yn ddyledus. Mae’n bwysig i chi esbonio eich sefyllfa iddynt fel bod modd i chi drafod yr opsiynau am ad-dalu.
Sut wyf yn medru delio gyda phroblemau am ffioedd?
Efallai eich bod yn profi problemau ynghylch y taliadau y mae’n rhaid i chi wneud i’r awdurdod lleol. Rydych yn medru delio gyda hyn yn anffurfiol neu’n ffurfiol a dylent sicrhau eich bod yn gwybod sut i apelio yn erbyn eu penderfyniadau neu sut i gwyno os ydych yn dymuno gwneud hynny.
Opsiynau anffurfiol
Y peth gorau yw ceisio delio gyda’r broblem yn anffurfiol yn gyntaf. Rydych yn medru trafod eich pryderon gyda’r gweithiwr proffesiynol sydd yn gyfrifol am eich cynllun gofal. Os nad oes cynllun gofal gennych, cysylltwch gyda’r person a oedd wedi cynnal yr asesiad. Gofynnwch iddo esbonio'r penderfyniadau a thrafodwch eich pryderon.
Y peth gorau yw ceisio delio gyda’r broblem yn anffurfiol yn gyntaf. Rydych yn medru trafod eich pryderon gyda’r gweithiwr proffesiynol sydd yn gyfrifol am eich cynllun gofal.
Os ydych yn siarad gyda rhywun, yna nodwch:
- Gyda phwy yr oeddech yn siarad,
- Pryd y gwnaethoch siarad gyda hwy, ac
- Yr hyn a drafodwyd.
Os ydych o dan y Dull Rhaglen Gofal, trafodwch unrhyw broblemau gyda’ch cydlynydd gofal neu weithiwr allweddol.
Opsiynau ffurfiol
Cwyno
Os ydych am gwyno, rhaid i chi ddilyn gweithdrefn gwyno'r awdurdod lleol.
Fel arall, gallwch gysylltu gydag Arolygiaeth Gofal a Gwaith Cymdeithasol Cymru ar 0300 7900 126
Camau cyfreithiol
Dylech fod yn medru delio gyda’r rhan fwyaf o broblemau yn anffurfiol neu drwy’r weithdrefn gwyno. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo nad ydynt yn cydymffurfio gyda’r gyfraith, yna gallwch ofyn am gyngor cyfreithiol. Bydd angen i chi siarad gyda chyfreithiwr gofal cymunedol.
Yn ddibynnol ar eich sefyllfa, rydych o bosib yn medru derbyn cyngor a chael rhywun i’ch cynrychioli. Efallai y byddwch yn medru derbyn cyngor cyfreithiol am ddim ond mae yna reolau ynglŷn â hyn. Bydd Civil Legal Advice yn dweud wrthych os ydych yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol (legal aid). Maent yn medru rhoi gwybodaeth i chi am gyfreithwyr sydd yn derbyn cyngor cyfreithiol. Rydych yn medru cysylltu gyda hwy ar 0345 345 4 345. Rydych yn medru chwilio am gyfreithwyr ar-lein yma.
Mae’r wybodaeth hon yn gywir pan gafodd ei baratoi. Mae modd i chi ganfod mwy o wybodaeth drwy wefan y Llywodraeth.