Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
Mae gofal iechyd preifat yn golygu talu y tu hwnt i’r GIG am y gwasanaethau iechyd yr ydych yn eu dymuno.
O ran gofal iechyd meddwl, mae hyn yn medru golygu:
- Derbyn asesiad neu ‘ymgynghoriad’ iechyd meddwl sydd yn medru arwain at ddiagnosis neu gynllun triniaeth,
- Derbyn cwnsela neu therapi,
- Derbyn triniaeth arbenigol, ac
- Aros mewn uned adsefydlu arbenigol neu ysbyty.
Rydych dal yn medru derbyn gofal o’r GIG os ydych yn penderfynu talu am iechyd preifat ychwanegol. Rydych dal yn debygol o dderbyn triniaeth GIG mewn argyfwng neu os oes rhaid i chi gael eich cadw yn yr ysbyty o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Rydych dal yn medru derbyn gofal o’r GIG os ydych yn penderfynu talu am iechyd preifat ychwanegol.
Os ydych yn talu am ymgynghoriad preifat, mae modd i chi gael mynediad cynt at ofal drwy'r GIG.