Rwyf yn hawlio Credyd Cynhwysol. Sut y bydd hyn yn cael ei effeithio?
Ni fydd hyn yn effeithio fel arfer ar eich Credyd Cynhwysol tan eich bod wedi bod yn yr ysbyty am fwy na chwe mis ond ar hyn o bryd, nid oes dim gwybodaeth ynglŷn â beth sydd yn digwydd ar ôl chwe mis. Gofynnwch am gyngor gan eich arbenigwr hawliau lles yn eich canolfan Byd Gwaith lleol os yw hyn berthnasol i chi, fel eich bod yn medru deall yr hyn sydd angen ei wneud. Mae modd i chi gael gwybodaeth gan eich swyddfa leol o Gyngor Ar Bopeth:
Cyngor Ar Bopeth
Ffôn (Lloegr): 08444 111 444
Gwefan: www.citizensadvice.org.uk
Cyplau
Rydych chi a’ch partner dal yn parhau i gael eich ystyried yn gwpl at ddibenion Credyd Cynhwysol am chwe mis ond wedi hyn, bydd y ddau ohonoch yn cael eich trin fel hawlwyr sengl ac efallai y bydd rhaid i chi wneud cais eto am y budd-daliadau. Mae hyn yn golygu:
- Nid ydych yn medru gwneud cais ar y cyd am Gredyd Cynhwysol,
- Wrth gyfrif eich budd-dal, ni fydd hyn yn cynnwys symiau ar gyfer eich partner, a
- Dylech roi gwybod i’r Adran Waith a Phensiynau gan fod rhaid i chi wneud cais eto efallai am Gredyd Cynhwysol fel person sengl.