Nid wyf yn medru fforddio fy nyledion, beth allaf wneud?
Mae delio gyda dyledion yn medru gosod straen arnoch, ac os nad ydych yn teimlo’n ddigon da i reoli hyn, rydych yn medru rhoi caniatâd i’ch gofalwr i reoli eich dyledion ar eich rhan. Er mwyn gwneud hyn, ysgrifennwch lythyr at eich benthycwyr neu unrhyw gredydwr er mwyn cadarnhau eich bod yn rhoi caniatâd i rywun arall i ddelio gyda’r hyn sydd angen ei wneud.
Mae delio gyda dyledion yn medru gosod straen arnoch, ac os nad ydych yn teimlo’n ddigon da i reoli hyn, rydych yn medru rhoi caniatâd i’ch gofalwr i reoli eich dyledion ar eich rhan.
Rydych yn medru derbyn cyngor am ddyledion am ddim o’r mudiadau canlynol:
Llinell Ddyled Genedlaethol
Mae’r mudiad yma yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol ac am ddim ynglŷn â dyledion, mae modd i chi gysylltu gyda hwy ar y ffôn, ar e-bost neu mewn llythyr.
Cyfeiriad - National Debtline Tricorn House, 51-53 Hagley Road, Edgbaston, Birmingham B16 8TP
Ffôn - 0808 808 4000
Rhadffôn
(Dydd Llun - Gwener 9am i 8pm a Dydd Sadwrn 9.30am i 1pm)
E-bostiwch drwy'r wefan: www.nationaldebtline.org/EW/Pages/Email-us-for-Advice.aspx
Gwefab: www.nationaldebtline.org
StepChange
Mae StepChange yn darparu cyngor a chymorth cyfrinachol ac am ddim i unrhyw un sydd yn poeni am ddyledion. Mae modd i chi gysylltu gyda hwy ar y ffôn neu ar-lein.
Ffôn - 0800 138 1111
(Dydd Llun - Gwener 8am - 8pm a Dydd Sadwrn 8am - 4pm)
E-bostiwch drwy'r wefan:www.stepchange.org/Contactus/Sendusanemail.aspx
Gwefan: www.stepchange.org