Beth sydd yn digwydd i’m harian, cartref ac anifeiliaid anwes pan fyddaf yn mynd i’r ysbyty?
Eich arian
Mae mynd i’r ysbyty yn medru effeithio ar eich sefyllfa ariannol mewn amryw o ffyrdd. Efallai y byddwch yn canfod:
- Bydd ein hincwm yn gostwng
- Ni fyddwch yn medru fforddio’ch holl filiau ac rydych yn mynd i ddyled,
- Mae’ch hawl i dderbyn budd-daliadau yn newid, neu
- Nid yw eich meddyg yn credu eich bod yn medru gwneud penderfyniadau eich hunan; mae hyn yn cael ei alw’n ‘alluedd meddwl’ ac os nad ydych yn medru gwneud penderfyniadau, efallai y bydd rhywun arall yn gorfod gwneud hyn i chi.
Eich cartref
Os ydych yn byw ar ben eich hun, mae modd i chi ofyn i rywun yr ydych yn ymddiried ynddo i gadw golwg ar eich cartref pan eich bod yn yr ysbyty a gofalu am dasgau ymarferol fel torri’r glaswellt a dyfrhau’r ardd. Maent hyd yn oed yn medru troi’r golau ymlaen yn y tŷ fel ei bod hi’n ymddangos bod rhywun adref pan fydd y tŷ’n wag, a hynny am resymau diogelwch ac maent yn medru dod â’ch post i’r ysbyty.
Efallai eich bod yn rhan o dîm iechyd meddwl ac yn meddu ar weithiwr cymorth, ac yn yr achos hwn, rydych yn medru gofyn i’ch gweithiwr cymorth i wneud pethau i chi ac efallai y byddant yn medru helpu.
Os ydych yn berchen ar eich tŷ eich hun, dylech wirio eich yswiriant polisi gan fod rhai polisïau yn datgan nad ydych yn medru gadael y tŷ yn wag am gyfnod o amser fel tri mis, ac felly, bydd angen i chi gysylltu gyda’ch cwmni yswiriant am hyn.
Eich anifeiliaid anwes
Os ydych yn byw ar ben eich hun ac os oes anifail anwes gennych - ond nid oes neb gennych yr ydych yn ymddiried ynddo sydd yn medru gofalu amdano - mae modd i chi chwilio am gwmnïau lleol sydd yn medru gwneud pethau megis gofalu am eich anifeiliaid neu’n mynd â’r ci am dro, neu fel arall, gallwch gysylltu gyda’r cyngor lleol. Nid oes dyletswydd gan y cyngor i ofalu am eich anifail anwes tra’ch bod yn yr ysbyty ond efallai y byddant yn codi tâl arnoch am wneud hyn.
Am gyngor, cysylltwch gyda:
The Royal Society for the Prevention of Cruelty to Animals (RSPCA)
Llinell gymorth: 0300 123 4555 (Llun-Gwen 9.00am-5.00pm)
Gwefan: www.rspca.org.uk
The Blue Cross
Ffôn: 0300 777 1897
E-bost: info@bluecross.org.uk
Gwefan: www.bluecross.org.uk