Pa wasanaethau gofal cymdeithasol sydd ar gael?
Mae yma ystod eang o wasanathau gofal cymdeithasol ar gael a bydd y rhan fwyaf o bobl ynd erbyn gofal yn eu cartrefi.
Mae’r sawl sydd yn meddwl am ofal cymdeithasol am y tro cyntaf yn ystyried hyn fel y gwasanaeth a geir mewn gofal cartref preswyl. Mewn gwirionedd, mae yna sawl math o wasanaethau gofal cymdeithasol a bydd y rhan fwyaf o bobl yn medru derbyn gofal yn y cartref.
Mae’r fath o gymorth gofal cymdeithasol yr ydych yn medru derbyn yn ddibynnol iawn ar eich anghenion. Mae hyn yn golygu'r math o gyflwr sydd arnoch, difrifoldeb eich anabledd. Er enghraifft, os ydych yn cael trafferth yn cerdded, efallai bod angen ychydig o offer arnoch er mwyn eich helpu i barhau i symud a bod yn annibynnol. Fodd bynnag, os ydych yn datblygu cyflwr sydd wir yn effeithio ar eich galluedd meddyliol neu’ch gallu i symud a gofalu am eich hun, mae’n debygol bod angen ystod dipyn mwy eang o wasanaethau gofal cymdeithasol arnoch.
Mae’n werth ceisio ystyried eich anghenion penodol a’r hyn yr ydych yn credu y bydd angen arnoch er mwyn eich helpu i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posib.
Mae gwasanaethau gofal a chymorth yn medru cynnwys y canlynol fel arfer:
- Cyfarpar – e.e. i’ch helpu chi i symud o gwmpas eich cartref,
- Help yn eich cartref - e.e. golchi, coginio a glanhau,
- Cymorth a gweithgareddau cymunedol – e.e. gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol,
- Canolfannau Dydd – e.e. darparu prydau bwyd a chyfleoedd i gymdeithasu,
- Addasiadau i’r cartref - e.e. lledaenu drysau ac arwynebau gweithio is,
- Gofal preswyl – e.e. Gofal seibiant er mwyn caniatáu eich gofalwyr i gael seibiant neu orffwyso,
- Cymorth cyllidol – e.e. hawliau i dderbyn budd-daliadau ychwanegol (ewch i’m hadran ar daliadau uniongyrchol),
- Gwybodaeth a gwasanaethau cynghori ac eiriolaeth – e.e. help i sicrhau eich bod yn derbyn yr hyn yr ydych yn gymwys i’w dderbyn,
- Cymorth i ofalwyr – e.e. mae hawl gan ofalwr i dderbyn asesiad gofalwr, a
- Cymorth gofal arall - e.e. cymorth gofal iechyd os ydy’ch anghenion gofal yn ymwneud â chyflwr iechyd parhaus.
Mae mwy o wybodaeth gennym am dalu am ofal cymdeithasol.