Ble allaf gael cymorth ar gyfer iechyd meddwl?
Cam pwysig i chi gymryd yw gofyn am help gan y bydd hyn yn chwarae rôl bwysig o ran gwella ac aros yn iach. Os ydych yn ansicr ynglŷn ag a oes problem iechyd meddwl gennych, mae’n iawn i chi ofyn am help.
Y lle gorau i ddechrau yw siarad gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol e.e. eich Meddyg neu Feddyg Teulu. Mae Meddyg Teulu yn medru helpu gyda:
- Cynnig diagnosis,
- Cynnig cymorth a thriniaethau i chi, ac
- Atgyfeirio at wasanaeth arbenigol.
Peidiwch â phoeni os nad oes Meddyg Teulu gennych. Mae’r GIG yng Nghymru yn cynnig offeyn ar-lein ar eu gwefan er mwyn chwilio am Feddyg Teulu, naill ai yn agos at ble’r ydych yn byw neu ble ydych yn gweithio.
Os ydych yn cael trafferth delio gyda’ch Meddyg Teulu e.e. os nad ydych yn credu eu bod yn gwrando arnoch neu’n anghytuno gyda’r hyn yr ydych yn ei ddweud, mae modd i chi wneud y canlynol:
- Gofyn i weld meddyg gwahanol. Nid oes rhaid i’ch meddygfa gytuno ond os ydynt yn gwrthod, rhaid iddynt gynnig esboniad rhesymol (er enghraifft, os yw’r feddygfa yn rhy fach neu os nad yw’r meddygon eraill ar gael ar y diwrnodau yr ydych angen).
- Gofynnwch i siarad gyda math gwahanol o ymarferydd, megis nyrs, gweithiwr iechyd meddwl arbenigol neu gwnselydd practis.
- Gofynnwch i’ch meddyg eich atgyfeirio at arbenigwr.
- Atgyfeiriwch eich hun at wasanaeth arall (mewn rhai achosion). Os ydych yn atgyfeirio eich hun at wasanaeth lles seicolegol neu dîm iechyd meddwl cymunedol, byddant angen cynnal asesiad arall fel arfer er mwyn gweld a ydynt yn medru eich cefnogi.
Efallai bydd eich Ymddiriedolaeth GIG lleol yng Nghymru hefyd yn medru cynnig gwasanaeth i chi fel IAPT (Improving Access to Psychological Therapies) - plîs peidiwch â chaniatáu i’r teitl eich dychryn. Nod y prosiect yw cynyddu darpariaeth triniaethau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, a hynny ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl cyffredin megis gorbryder ac iselder gan fudiadau gofal cynradd.
Mae modd i chi ddewis hefyd i dalu’n breifat am eich triniaeth neu’ch therapi.