Beth yw’r Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian?
Y Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yw’r gwasanaeth cyntaf yn y DU i gyfuno cymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl ac ariannol.
Rydym yma ar gyfer unrhyw un sydd ag afiechyd meddwl ac yn cael trafferth gyda’u harian, ynghyd ag unrhyw un arall sydd â thrafferthion ariannol yn effeithio ar eu hiechyd meddwl.
Mae pedair miliwn o bobl yn y DU yn meddu ar broblemau iechyd meddwl ac ariannol ac mae pedair miliwn pellach o bobl mewn peryg gan eu bod yn cael trafferthion ariannol.
Gyda’i gilydd, mae’r problemau hyn yn medru creu cylch dieflig sydd yn medru arwain at broblemau gyda pherthnasau, gwaith a thai.
Tra bod yna nifer o wasanaethau cyngor dyled ardderchog ar gael, mae’r gwasanaeth hwn yn medru cynnig cymorth iechyd meddwl ar y cyd.
Beth mae Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn ei wneud?
Mae ein gwefan yn darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor am ddim ac sydd yn wrthrychol, a hynny ar gyfer unrhyw un sydd wedi ei effeithio gan faterion iechyd meddwl ac ariannol. Mae hyn yn cynnwys cymorth i ffrindiau, teuluoedd gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio yn y maes.
Pa help sydd ar gael ar wefan Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian?
- Cyngor arbenigol: Mae rheoli iechyd meddwl ac arian yn medru bod yn gymhleth. Mae ein hadrannau cyngor yn rhestru’r wybodaeth y gofynnir amdani amlaf a’n esbonio’r adnoddau ynglŷn ag iechyd meddwl ac arian mewn iaith Saesneg hawdd ei deall.
- Teclynnau a chyfrifianellau ariannol:Er mwyn eich helpu chi i reoli eich arian yn well, rydym yn darparu ystod o declynnau a chyfrifianellau cyllidebu ar-lein am ddim er mwyn eich helpu chi gynllunio ymlaen llaw a chadw ar y trywydd cywir.
- Llythyron a thempledi enghreifftio: Wrth ddelio gyda materion ariannol, efallai y bydd rhaid i chi ysgrifennu a danfon llythyron at fudiadau proffesiynol cyfreithiol, meddygol ac eraill. Mae ein hystod o lythyron enghreifftiol yn rhoi esiampl i chi o’r hyn sydd angen i chi ysgrifennu, ac felly, yr unig beth sydd angen i chi wneud yw llenwi’r bylchau.
- Straeon go iawn: Pan ddaw hi at ddeall materion ariannol ac iechyd meddwl, mae’n helpu i glywed gan bobl eraill sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg i chi. Mae ein straeon go iawn yn rhoi’r hanes i chi o sut y mae pobl fel chi yn medru goresgyn materion iechyd ac ariannol a rhoi eich bywyd yn ôl ar ôl y trywydd cywir.
- Cysylltiadau defnyddio: Weithiau, bydd angen mwy o wybodaeth arnoch am yr hyn sydd yn cael ei drafod ar ein gwefan. Ar gyfer pob math o gyngor, rydym yn gynnig rhestr o gysylltiadau defnyddiol pan fyddwch angen siarad gyda rhywun yn uniongyrchol dros y ffȏn, neu angen mwy o wybodaeth.
Pwy sydd yn darparu’r Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian?
Mae’r Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian wedi ei ddatblygu gan Mental Health UK. Mae Mental Health UK is yn elusen ar draws y DU sydd yn cynrychioli'r pedair elusen sydd yn ei ffurfio; Rethink Mental Illness yn Lloegr, Hafal yng Nghymru, Change Mental Health yn yr Alban a MindWise yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Mental Health UK yn falch o weithio gyda Grŵp Bancio Lloyds fel eu helusen partner ar gyfer 2017 a 2018. Roedd cydweithwyr wedi pleidleisio gyda mwyafrif i gefnogi Mental Health UK ac mae wedi sefydlu partneriaeth ers hynny drwy godi arian a gwirfoddoli. Mae mwy na £3 miliwn wedi ei gasglu hyd yma, sydd yn fwy na’r uchelgais o £2 miliwn ar gyfer eleni.
Mae ymdrechion codi arian, arbenigedd a chefnogaeth hael cydweithwyr wedi caniatáu i Mental Health UK i ddatblygu a lansio’r Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian.
Beth os oes angen i mi siarad gyda rhywun?
Rydym yn wasanaeth ar-lein yn unig ar hyn o bryd. Am fwy o gymorth, ewch i ddarllen yr adran Help a Chysylltiadau ein gwefan. Bydd hyn yn cynnig ffordd hawdd i chi gael gwybodaeth am fudiadau eraill sydd yn medru cynnig cyngor penodol sydd yn ymwneud gyda materion iechyd meddwl neu ariannol.
E-bostiwch media@mentalhealth-uk.org ar gyfer ymholiadau gan y wasg.