Y broses apêl
Er mwyn apelio yn erbyn penderfyniad gan yr Adran Waith a Phensiynau, rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth gorfodol cyn eich bod yn medru apelio. Mae’r broses hon yn berthnasol i fudd-daliadau megis:
- Taliad Annibynnol Personol (TAP),
- Credyd Cynhwysol (CC),
- Lwfans Byw i’r Anabl (LBA),
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh), a
- Lwfans Ceisio Gwaith (LCG).
Unwaith eich bod wedi derbyn y ffurflen, rhaid i chi apelio yn syth i’r gwasanaeth tribiwnlys. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘direct lodgement’. Ni fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn danfon eich apêl i’r tribiwnlys.
Er mwyn gwneud direct lodgement, rhaid i chi ddanfon y canlynol i’r tribiwnlys:
- Un copi o’ch Hysbysiad Ailystyriaeth Gorfodol, a
- Llythyr neu ffurflen apêl yn gwneud cais am apêl
Ar gyfer y rhan fwyaf o apeliadau budd-daliadau, y ffurflen briodol yw SSCS1ond y ffurflen SSCS5 sydd ar gyfer Credydau Treth a Budd-dal Plant.
Rydym yn argymell eich bod yn danfon ffurflen yn hytrach na llythyr. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn danfon y wybodaeth sydd angen ar y tribiwnlys ar gyfer ystyried yr apêl.
Rydym yn argymell eich bod yn danfon ffurflen yn hytrach na llythyr. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn danfon y wybodaeth sydd angen ar y tribiwnlys ar gyfer ystyried yr apêl.
Bydd y ffurflen yn gofyn a ydych am dderbyn gwrandawiad papur neu lafar. Bydd gwrandawiad papur yn golygu y bydd y tribiwnlys yn edrych ar eich achos heb eich bod chi yno. Mae gwrandawiad llafar yn golygu y bydd rhaid i chi fynd i’r tribiwnlys. Rydych yn fwy tebygol o lwyddo os ydych yn cael gwrandawiad llafar. Dylech lenwi’r ffurflen a’i danfon i:
Cyfeiriad: HMCTS, Canolfan Apeliadau SSCS, P.O Box 1203, Bradford BD1 9WP
Bydd y tribiwnlys yn dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau eich bod yn apelio. Dylai’r Adran Waith a Phensiynau ymateb o fewn 28 diwrnod a dylent ddanfon copi o’ gwaith papur i chi.
Efallai y byddwch yn derbyn llawer o waith papur gan yr Adran Waith a Phensiynau. Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi fynd drwy bob dim ar unwaith. Darllenwch drwy bob dim heb ruthro. Mae’n bosib y bydd y gwrandawiad tribiwnlys yn cael ei gynnal mewn rhai wythnosau neu fisoedd. Mae’n bosib y bydd rhaid i chi aros am gyfnod hir.
At hyn, os nad yw’r Adran Waith a Phensiynau yn newid ei benderfyniad ar ddiwedd yr ailystyriaeth gorfodol, mae modd i chi wedyn apelio i’r tribiwnlys.
Beth yw’r cyfyngiadau amser o ran cyflwyno apêl?
Bydd 1 mis gennych i gyflwyno eich apêl o’r dyddiad sydd ar yr Hysbysiad Ailystyriaeth Gorfodol.
Os ydych yn colli’r cyfyngiad amser hyn yn sgil amgylchiadau arbennig, mae modd i chi ofyn i’r tribiwnlys i dderbyn eich apêl. Er enghraifft, os oeddech chi neu’ch partner yn ddifrifol sâl ar y pryd, mae modd i chi ofyn i’r tribiwnlys i dderbyn apêl hwyr. Rhaid i chi ofyn am hyn o fewn 13 mis o’r penderfyniad gwreiddiol.