A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
Yn yr adran hon, rydyn yn esbonio sut y mae modd i chi herio penderfyniad a wneir gan eich awdurdod lleol. Mae hyn yn berthnasol i fudd-daliadau megis:
- Cymorth treth cyngor, a
- Budd-dal tai.
Cymorth treth cyngor
Eich awdurdod lleol sydd yn gyfrifol am yr holl dreth cyngor, gan gynnwys esemptiadau a gostyngiadau yn eich ardal. Mae pob un awdurdod lleol yn meddu ar broses apêl ei hun. Mae modd i chi ffonio eich awdurdod lleol a byddant yn medru dweud mwy wrthych am eu proses.
Os nad ydych yn cytuno gyda phenderfyniad am y dreth cyngor, dylech gysylltu gyda’r awdurdod lleol a dweud wrthynt eich bod yn apelio yn erbyn y penderfyniad. Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen apêl a byddant yn medru esbonio’r broses.
Rydych yn medru danfon unrhyw dystiolaeth sydd yn cefnogi eich rhesymau dros apelio gyda’ch ffurflen. Mae hyn yn medru cynnwys:
- datganiadau banc,
- prawf bod pobl yn byw mewn cyfeiriadau eraill,
- prawf o’ch anabledd,
- anfonebau a derbynebau sydd yn dangos fod arian wedi ei wario ar eitemau hanfodol, neu
- unrhyw dystiolaeth arall sydd yn profi fod y penderfyniad y maent wedi gwneud amdanoch yn anghywir.
Dylent ymateb mewn dau fis. Os ydynt yn teimlo bod eu penderfyniad gwreiddiol yn gywir ac yn anghytuno gyda’ch apêl, yna mae modd i chi apelio i’r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio (GTP). Os ydych am apelio i’r GTP, rhaid i chi wneud hyn o fewn dau fis o dderbyn penderfyniad yr awdurdod lleol.
Yn yr apêl, rhaid i chi ddanfon ffurflen apêl a’r wybodaeth ganlynol:
- enw a manylion cyswllt,
- cyfeiriad eich eiddo,
- pam eich bod yn credu y dylech gael gostyngiad neu esemptiad,
- y cyfnod amser yr ydych yn credu sydd yn berthnasol,
- y dyddiad y dywedodd yr awdurdod lleol wrthych am eu penderfyniad (ynghyd â chopi o’r llythyr yn nodi’r penderfyniad).
Mae modd i chi apelio ar-lein neu ar wefan y GTP neu gallwch gysylltu gyda hwy a byddant yn danfon ffurflen atoch.
Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio i Gymru
Rhanbarth Dwyrain Cymru a Rhanbarth De Cymru
22 Gold Tops
Casnewydd
De Cymru
NP20 4PG
P: 01633 266 367
F: 01633 253 270
E: VTWaleseast @vtw.gsi.gov .uk
Rhanbarth Gogledd Cymru
Adeiladau’r Llywodraeth - Bloc A(L1)
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ
P: 03000 625 350
F: 03000 625 368
E: VTWalesnorth @vtw.gsi.gov .uk
Rhanbarth Gorllewin Cymru
Llys y Ddraig
Parc Busnes Penllergaer
Abertawe
SA4 9NX
P: 03000 254530
F: 03000 254522
E: VTWaleswest @vtw.gsi.gov.uk
A ddylem barhau i dalu fy nhreth cyngor yn ystod fy apêl?
Dylech. Bydd angen i chi barhau i dalu treth cyngor yn ystod y cyfnod apêl. Os ydych yn llwyddiannus a bod eich bil treth cyngor yn cael ei leihau, byddant yn ystyried faint yr ydych eisoes wedi talu.
Pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen apêl, bydd y GTP yn danfon canllaw ar gyfer yr hyn fydd yn digwydd yn ystod y broses apêl. Pan fyddant wedi gosod dyddiad ar gyfer eich apêl, byddant yn danfon Hysbysiad Gwrandawiad i chi a fydd yn nodi pa bryd y mae eich gwrandawiad yn cael ei gynnal. Os nad ydych yn medru mynychu, mae modd i chi ofyn iddynt ail-drefnu’r gwrandawiad.
Gallwch gysylltu gyda’r GTP a fydd yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer y gwrandawiad. Ewch â thystiolaeth gyda chi i’r gwrandawiad ac esboniwch pam nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad. Mae modd i chi fynd â rhywun gyda chi ac maent yn medru siarad ar eich rhan. Mae modd i chi ddanfon rhywun i siarad ar eich rhan os nad ydych yn mynychu. Os ydych am wneud hyn, mae angen i chi ddanfon llythyr at y GTP yn dweud wrthynt am hyn cyn dyddiad y gwrandawiad.
Mae’r gwrandawiadau yn agored i’r cyhoedd, ac felly, byddai’n ddefnyddiol o bosib eich bod yn mynd i dribiwnlys rhywun arall yn gyntaf fel eich bod yn ymgyfarwyddo gyda’r lleoliad a’r broses.
Mae’r gwrandawiadau yn agored i’r cyhoedd, ac felly, byddai’n ddefnyddiol o bosib eich bod yn mynd i dribiwnlys rhywun arall yn gyntaf fel eich bod yn ymgyfarwyddo gyda’r lleoliad a’r broses.
Budd-dal Tai
Os nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad am eich budd-dal tai, mae modd i chi ofyn i’r awdurdod lleol i ystyried y penderfyniad eto neu apelio. Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu fod y penderfyniad gwreiddiol yn gywir, mae modd i chi barhau gyda’ch apêl / Os ydynt yn newid eu penderfyniad, gallwch dynnu eich apêl yn ôl.
Os ydych am apelio, rhaid i chi lenwi ffurflen apêl eich awdurdod lleol. Bydd y llythyr yn nodi’r penderfyniad yn dweud wrthych ble i ddanfon eich apêl. Efallai y bydd rhaid danfon y ffurflen yn ôl i’r awdurdod lleol neu’n syth i’r Tribiwnlys. Darllenwch yr adran Apeliadau o’r daflen ffeithiau am fwy o wybodaeth am apelio i’r tribiwnlys. Mae mis gennych fel arfer i apelio neu ofyn i’r awdurdod lleol i ystyried eu penderfyniad eto.
Mae mis gennych fel arfer i apelio neu ofyn i’r awdurdod lleol i ystyried eu penderfyniad eto.
Er mwyn apelio penderfyniad a wneir gan yr Adran Waith a Phensiynau ynglŷn â’r Elfen Tai o’r Credyd Cynhwysol, rhaid i chi ofyn am ailystyriaeth gorfodol cyn eich bod yn medru apelio.