Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau ar ôl yr ailystyriaeth gorfodol?
Os ydynt yn creu eich bod yn ffit i weithio ar ôl yr ailystyriaeth gorfodol , mae modd i chi apelio i dribiwnlys. Byddwch yn derbyn llythyr cadarnhad gan y tribiwnlys unwaith y bydd eich llythyr wedi’i dderbyn. Unwaith eich bod yn derbyn y llythyr cadarnhad, dylech gysylltu gyda'r Adran Waith a Phensiynau er mwyn gwirio eu bod wedi derbyn yr apêl a sicrhau eu bod wedi aildrefnu eich bod yn derbyn eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (LCCh). Os ydych wedi hawlio budd-dal arall megis Lwfans ceisio Gwaith (LCG) yn ystod yr ailystyriaeth gorfodol, bydd angen canslo’r cais hwn, Dylid talu eich LCCh ar y gyfradd asesu a pharhau tan eu bod wedi clywed eich apêl.
Ni fyddwch yn derbyn unrhyw LCCh ar ôl ailystyriaeth gorfodol os nad ydych wedi gwneud cais arall ar ôl methiant y cais gwreiddiol. Rydych ond yn medru gwneud hyn os yw eich iechyd yn dirywio.
Ni fyddwch yn derbyn unrhyw LCCh ar ôl ailystyriaeth gorfodol os yw eich apêl yn ymwneud â methu cwblhau’r holiadur iechyd neu fynychu’r asesiad meddygol.
Sut wyf yn herio penderfyniad am Taliad Annibynnol Personol (TAP), Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) neu Lwfans Ceisio Gwaith (LCG)?
Os oeddech yn gofyn am ailystyriaeth gorfodol o’ch Taliad Annibynnol Personol (TAP), Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) neu'r Lwfans Ceisio Gwaith (LCG), bydd yr Adran Waith a Phensiynau naill yn penderfynu rhoi’r budd-dal hwn i chi ai peidio. Os ydynt yn penderfynu gwrthod rhoi’r budd-dal i chi, rydych yn medru apelio i’r tribiwnlys annibynnol ond ni fyddwch yn derbyn TAP, LBA neu’r LCCh yn ystod y cyfnod apêl.
Herio penderfyniad am y Credyd Cynhwysol (CC)
Os ydych yn herio’r penderfyniad sydd yn gwrthod rhoi’r elfen gallu cyfyngedig i weithio o’r Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn derbyn yr elfen hon ar ôl ailystyriaeth briodol. Os na, mae modd i chi apelio i’r tribiwnlys – mae modd i chi hawlio’r lwfans safonol o’r CC yn ystod y cyfnod hwn.
Mae modd i chi ganfod mwy o wybodaeth yn yr adrannau canlynol: