Beth yw’r Credyd Cynhwysol?
Mae’r Credyd Cynhwysol (CC) yn fudd-dal newydd sydd yn cael ei dalu’n fisol.
Mae’r Credyd Cynhwysol (CC) yn fudd-dal newydd sydd yn cael ei dalu’n fisol. Rydych yn medru derbyn CC os ydych yn derbyn ychydig o incwm neu dim incwm o gwbl ac yn meddu ar lefelau isel o gynilion a chyfalaf.
Bydd CC yn disodli’r budd-daliadau canlynol:
- Budd-dal Tai
- Cymorth Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaih yn seiliedig ar incwm
- Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Credydau Treth Plant
- Credydau Treth Gwaith
- Benthyciadau Cyllidebu
Os ydych yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau sydd yn cael eu disodli gan y CC, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn eich symud i’r CC rhywbryd cyn 2022.
Mae’r CC yn cynnwys nifer o ‘Elfennau’. Rydych yn medru derbyn sawl elfen o CC gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys Elfen Gofalwyr. Rydych yn gymwys i dderbyn hyn os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun sydd yn derbyn:
- Lwfans Gweini,
- Taliad Annibynnol Personol (elfen byw’n ddyddiol safonol neu uwch), neu
- Lwfans Byw i’r Anabl (elfen ofal cyfradd ganoli neu uwch).