Beth yw Premiwm Gofalwr?
Mae’r Premiwm Gofalwr yn £37.70 yr wythnos ar ben y budd-daliadau eraill yr ydych yn hawlio. Dyma hwy.
- Cymorth Incwm (CI)
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (LCG
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn ymwneud ag Incwm (LCCh)
- Budd-dal Tai
Mae modd i chi hawlio swm ychwanegol ar ben y Credydau Pensiwn. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘Ychwanegiad Gofalwr’.
Mae modd i chi hawlio swm ar ben y Credydau Pensiwn.
Er mwyn ychwanegu'r Premiwm Gofalwr at eich budd-dal, dylech wneud cais am Lwfans Gofalwr (LG). Efallai na fyddwch yn derbyn LG, os ydych yn derbyn budd-daliadau eraill megis Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth. Mae modd i chi ddarllen mwy am y Lwfans Gofalwr a sut i wneud cais yn yr adran Beth yw Lwfans Gofalwr.