Beth yw Lwfans Gofalwr?
Mae Lwfans Gofalwr (LG) yn fudd-dal y mae modd i chi hawlio os ydych yn ofalwr llawn amser.
Mae Lwfans Gofalwr (LG) yn fudd-dal y mae modd i chi hawlio os ydych yn ofalwr llawn amser. Rydych yn medru derbyn £81.90 yr wythnos.
Rydych yn medru hawlio LG os ydych yn gweithio ond nid yn ennill mwy na £151 yr wythnos. Nid yw LG yn cael ei effeithio gan unrhyw gynilion sydd gennych.
Rydych yn gymwys ar gyfer LG os ydych:
- Yn treulio mwy na 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun,
- Yn 16 neu’n hŷn,
- Yn unigolyn na sydd mewn addysg llawn amser,
- Byw yn y DU ac yn gorfod cydymffurfio gyda’r system rheoli mewnfudo,
- Yn ennill llai na £151 yr wythnos (ar ôl treth, Yswiriant Cenedlaethola a hanner unrhyw gyfraniadau pensiwn), ac
Yn gofalu am rywun sydd yn derbyn:
- Lwfans Byw i'r Anabl (cyfradd ganolig neu uwch),
- Taliad Annibynnol Personol (elfen byw’n ddyddiol safonol neu uwch),
- Lwfans Mynychu, neu
- Lwfans Mynychu Parhaus.
Mae modd ôl-ddyddio LG am hyd at 3 mis ar yr amod eich bod yn cwrdd â’r meini prawf yn ystod y cyfnod hwn.