Beth yw Credydau Gofalwr?
Os nad ydych yn gweithio, ni fyddwch yn talu cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol. Mae cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol yn cyfrif tuag at eich Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth, gan eich helpu i fod yn gymwys ar gyfer y fath bensiwn.
Mae Credydau Gofalwr yn cyfrif tuag at eich cofnod Yswiriant Cenedlaethol, gan eich helpu chi fod yn gymwys ar gyfer Pensiwn Ymddeol y Wladwriaeth.
Byddwch yn gymwys i dderbyn Credydau Gofalwr os:
- Ydych yn treulio mwy nag 20 awr yr wythnos yn gofalu,
- Nid ydych yn derbyn Lwfans Gofalwr, a
- Mae’r person yr ydych yn gofalu amdano yn derbyn
- Lwfans Byw i'r Anabl (gofal cyfradd ganolig neu uwch),
- Taliad Annibynnol Personol (elfen byw’n ddyddiol safonol neu uwch)
- Lwfans Mynychu, neu
- Lwfans Mynychu Parhaus.
Os nad yw’r person yr ydych yn gofalu amdano yn derbyn unrhyw un o’r budd-daliadau yma, rydych dal yn medru derbyn Credydau Gofalwr os yw gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol yn cadarnhau eich bod yn darparu digon o ofal.
Er mwyn gwneud cais am Gredydau Gofalwr, cysylltwch â’r Uned Lwfans Gofalwr ar 0845 608 4321
Uned Lwfans Gofalwr
0845 608 4321