Beth os wyf yn cael seibiant o’m rôl gofalu?
Rydych yn medru cael seibiant o ofalu am 4 o bob 26 wythnos a pharhau i dderbyn Lwfans Gofalwr.
Rydych yn medru cael seibiant o ofalu am 4 o bob 26 wythnos a pharhau i dderbyn Lwfans Gofalwr (LG), ar yr amod:
- Rydych wedi bod yn darparu gofal am 35 awr yr wythnos am 22 o’r 26 wythnos flaenorol, a
- Mae’r person yr ydych yn gofalu amdano yn parhau i dderbyn y budd-dal cymwys (Lwfans Byw i’r Anabl ar y gyfradd ganolig neu uwch, Taliad Annibynnol Personol ar yr elfen byw’n ddyddiol safonol neu uwch, Lwfans Mynychu neu Lwfans Mynychu Parhaus).
Os ydych yn mynd i’r ysbyty, byddwch yn derbyn Lwfans Gofalwr am hyd at 12 wythnos ar yr amod:
- Rydych wedi bod yn darparu gofal am 35 awr yr wythnos am 14 o’r 26 wythnos flaenorol, a
- Mae’r person yr ydych yn gofalu amdano yn parhau i dderbyn y budd-dal cymwys.
Os yw’r person yr ydych yn gofalu amdano yn mynd i’r ysbyty, byddwch yn parhau i dderbyn LG ar yr amod eu bod dal yn derbyn eu budd-dal anabledd (fel arfer yn 4 wythnos) fel arfer. Byddwch yn parhau i dderbyn Premiwm Gofalwr am 8 wythnos ar ôl i’ch Lwfans Gofalwr orffen. Sicrhewch eich bod yn dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau os yw’r person yr ydych yn gofalu amdano yn mynd i’r ysbyty.
Mae modd i chi wneud cais am Lwfans Gofalwr neu drwy gwblhau ffurflen bapur. Er mwyn gofyn am ffurflen gais, cysylltwch gyda’r Uned Lwfans Gofalwr ar 0345 608 4321.