A wyf yn medru hawlio Gostyngiad ar fy Nhreth Cyngor?
Mae rhaid gofalwyr yn medru hawlio gostyngiad ar eu Treth Cyngor.
Mae rhaid gofalwyr yn medru hawlio gostyngiad ar eu Treth Cyngor. Mae bil treth cyngor llawn yn seiliedig ar ddau oedolyn neu fwy yn byw gyda’i gilydd. Mae rhai pobl wedi eu heithrio. Mae hyn yn cynnwys:
- Rhai gofalwyr,
- Pobl mewn addysg lawn amser,
- Pobl sydd â ‘nam meddwl difrifol’.
Byddwch yn derbyn gostyngiad ar eich bil treth cyngor os oes llai na dau oedolyn yn byw ar yr aelwyd. Mae modd lleihau’r bil 25%, 50% neu 100% gan ddibynnu ar bwy sydd yn byw yn yr eiddo.
Er mwyn cadarnhau a ydych yn medru derbyn gostyngiad ar eich bil treth cyngor, cysylltwch gyda’ch awdurdod lleol neu siaradwch gyda chynghorydd budd-daliadau.
Gostyngiad i ofalwyr
Nid yw gofalwyr yn cael eu hystyried pan fydd yr awdurdod lleol yn ceisio cadarnhau eich bil treth cyngor. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael gostyngiad os ydych yn cwrdd â’r meini prawf canlynol.
- Rydych yn gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos
- Rydych yn byw gyda’r person yr ydych yn gofalu amdano
- Mae’r person yr ydych yn gofalu amdano yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn
- Nid yw’r person yr ydych yn gofalu amdano yn ŵr/gwraig neu’n bartner i chi.
Rydych ond yn gymwys os yw’r person yr ydych yn gofalu amdano yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol.
- Lwfans Byw i'r Anabl (gofal cyfradd canolig neu uwch)
- Taliad Annibynnol Personol (elfen byw’n ddyddiol safonol neu uwch)
- Lwfans Mynychu Parha
- Lwfans Mynychu, neu
Os yw’r person yr ydych yn gofalu amdano wedi ei eithrio rhag talu treth cyngor, byddwch yn derbyn gostyngiad o 50%. Os nad yw’r person yr ydych yn gofalu amdano wedi ei eithrio rhag talu treth cyngor, byddwch yn derbyn gostyngiad o 25%.
Gostyngiad person sengl
Os mai chi yw’r unig oedolyn sydd yn byw yn eich cartref, dylech dderbyn gostyngiad o 25% oddi ar eich bil treth cyngor. Dyma’r ’gostyngiad person sengl’. Efallai y byddwch yn elwa hefyd os ydych yn fyfyriwr neu’n meddu ar ‘nam meddwl difrifol’.
A ddylem ofyn am gyngor?
Mae’r system fudd-daliadau yn gymhleth. Siaradwch gyda chynghorydd budd-daliadau os nad ydych yn gwybod pa fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w derbyn. Efallai y byddwch yn medru derbyn help delio gyda sefyllfaoedd gwahanol megis hawlio neu apelio. Gallai hyn gynnwys cyngor, gwybodaeth a help yn llenwi ffurflenni neu gynrychiolaeth.
Rydych yn medru chwilio am wasanaethau lleol ar wefan Turn2us website.