Sut wyf yn gwneud cais?
Llinell Hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)
0800 917 2222
Rydych yn medru ffonio Llinell Gymorth Taliad Annibynnol Personol (TAP) ar 0800 917 2222 er mwyn gwneud cais. Mae rhywun arall yn medru ffonio ar eich rhan ond rhaid i chi fod gyda hwy.
Ni ddylai hon fod yn alwad ffȏn hir os ydych wedi paratoi’r wybodaeth yn barod. Bydd y person ar y ffȏn yn gofyn i chi am eich:
- Enw
- Manylion cyswllt
- Cyfeiriad a chod post
- Dyddiad geni
- Rhif yswiriant cenedlaethol
- Cenedligrwydd
- Manylion banc
- Manylion cyswllt eich prif weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn medru cynnwys eich Meddyg Teulu neu’ch cydlynydd gofal os oes un gennych.
Os nad ydych yn medru hawlio dros y ffȏn, mae modd i chi ddefnyddio ffurflen gais papur. Er mwyn cael copi, bydd angen i chi ysgrifennu i’r cyfeiriad canlynol yn gofyn am gopi papur.
Ceisiadau Newydd Taliad Annibynnol Personol, Post Handling Site B, Wolverhampton, WV99 1AH.
Bydd yr Adran Waith a Phensiynau ond yn rhoi copi papur i chi os nad ydych yn medru cwblhau’r cais ar y ffȏn. Pan yn ysgrifennu at yr Adran Waith a Phensiynau, dylech esbonio nad ydych yn medru defnyddio ffȏn.
Ar hyn o bryd, nid oes modd i chi wneud cais am TAP ar-lein.
Ffurflen gais - ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
Ar ôl i chi wneud cais, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn danfon ffurflen atoch i chi lenwi. Enw’r ffurflen hon yw ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch. Rydych yn defnyddio’r ffurflen hon er mwyn esbonio sut y mae eich anabledd yn golygu eich bod yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer TAP.
Rydych yn cael mis i gwblhau’r ffurflen. Pan fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn derbyn y ffurflen, byddant yn danfon y ffurflen at weithiwr iechyd proffesiynol. Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn penderfynu a ydynt angen mwy o wybodaeth. Mae’n debyg y bydd angen i chi fynd am asesiad meddygol.
- Mae cyfeirnod ar bob ffurflen. Mae ond modd i chi ddychwelyd yr union ffurflen y mae’r Adran Waith a Phensiynau yn danfon atoch chi.
- Os ydych yn gwneud camgymeriad ar eich ffurflen ac angen ffurflen newydd, bydd angen i chi gysylltu gyda’r Adran waith a Phensiynau er mwyn trefnu eich bod yn derbyn ffurflen newydd.
- Cysylltwch gyda’r Adran Waith a Phensiynau a gofynnwch am gymorth a mwy o amser os ydych angen hynny.
- Paratowch ddrafft o’ch atebion cyn ysgrifennu ar y ffurflen.
- Peidiwch â brysio. Nid oes rhaid i chi gwblhau pob dim ar unwaith.
- Trefnwch eich bod yn cael cymorth. Efallai y bydd gofalwr, gweithiwr iechyd proffesiynol neu gynghorydd budd-daliadau yn medru eich helpu chi ateb rhai cwestiynau.
- Os oes rhywun arall yn cwblhau’r ffurflen gais ar eich rhan, esboniwch pam nad ydych wedi medru cwblhau’r ffurflen eich hun.
- Gwnewch gopi o’ch ffurflen ar ôl i chi ei chwblhau ac unrhyw wybodaeth ychwanegol cyn eu danfon at yr Adran Waith a Phensiynau. Mae hyn hefyd yn golygu bod copi sbâr gennych os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn colli’r ffurflen neu os ydych angen cyfeirio ati yn y dyfodol.
Defnyddiwch y ffurflen enghreifftiol o wefan yr Adran Waith a Phensiynau er mwyn ymarfer cyn i chi lenwi eich ffurflen.