Pwy sydd yn medru hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
Er mwyn hawlio’r Taliad Annibynnol Personol (TAP), rhaid i chi fod yn:
- Yn 16 neu’n hŷn
- O dan 65 neu’n iau nag oedran pensiwn – beth bynnag sy’n uwch
- Cwrdd â’r meini prawf o ran preswylio a bod yn bresennol
- Yn cwrdd ag amodau'r cyfnod cymhwyso, a
- Llwyddo yn y prawf byw’n ddyddiol neu symudedd
Os ydy’ch plentyn yn iau na 16
Os yw eich plentyn o dan 16, mae modd i chi hawlio LBA iddynt. Ond efallai y bydd yr Adran Waith a Phensiynau o bosib yn gofyn iddynt hawlio TAP pan fyddant yn dathlu eu pen-blwydd yn 16 mlwydd oed. Mewn rhai ardaloedd, byddant yn medru parhau i hawlio LBA yn hytrach na TAP. Fodd bynnag, byddant yn cael eu hasesu o dan reolau’r TAP erbyn diwedd 2017.
Os ydych yn hŷn na 64
Os ydych eisoes wedi hawlio TAP erbyn eich bod yn 65, bydd angen i chi barhau i dderbyn y budd-dal ar yr amod eich bod yn cwrdd â’r amodau.
Os ydych eisoes yn hŷn na 65, nid ydych yn medru cyflwyno cais newydd am TAP. Bydd rhaid i chi hawlio Lwfans Mynychu.
Meini prawf – byw a bod yn bresennol
Er mwyn cwrdd â’r meini prawf byw a bod yn bresennol, rhaid i chi fod:
- Ym Mhrydain Fawr
- Wedi bod ym Mhrydain Fawr am 104 wythnos yn y tair blynedd ddiwethaf, a
- Yn ‘trigo fel arfer' yn y DU. Mae hyn yn golygu eich bod yn bwriadu aros yn barhaol yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.
Mae yna rai eithriadau pan fyddwch yn medru hawlio TAP os nad ydych ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn medru cynnwys bod yn y Lluoedd Arfog neu os ydych i ffwrdd o Brydain Fawr dros dro.
Y cyfnod cymhwyso
Rhaid i chi:
- Cwrdd â’r meini prawf anabledd dri mis cyn bod eich cais yn dechrau, a
- Yn debygol o gwrdd â’r meini prawf anabledd am naw mis ar ôl i’ch cais i ddechrau.
Mae hyn yn golygu bod yr Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu ar eich cais bob 12 mis, gan ystyried y 3 mis blaenorol a’r 9 mis sydd i ddilyn. Mae’n rhaid iddynt roi ystyriaeth i’r ffaith os yw eich salwch yn newid dros amser.
.
“Mae rhaid iddynt roi ystyriaeth i’r ffaith os yw eich salwch yn newid dros amser.
Gweithgareddau byw’n ddyddiol a symudedd
Rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau fod yn fodlon eich bod yn cael problemau gyda gweithgareddau penodol o ran byw’n ddyddiol neu symudedd. Mae’r gweithgareddau yma fel a ganlyn:
Gweithgareddau byw’n ddyddiol
- Paratoi bwyd
- Bwyta neu yfed
- Rheoli therapi neu fonitro cyflwr iechyd
- Golchi ac ymolchi
- Rheoli anghenion mynd i’r tŷ bach neu anaymataliaeth
- Gwisgo a dadwisgo
- Cyfathrebu ar lafar
- Darllen a deall arwyddion, symbolau a geiriau
- Cysylltu wynebi wyneb gyda phobl eraill
- Gwneud penderfyniadau am eich arian a’ch cyllideb
Gweithgareddau symudedd
- Cynllunio a mynd ar deithiau
- Symud o gwmpas
Mae pob gweithgaredd yn meddu ar nifer o ddatganiadau. Os yw datganiad yn berthnasol i chi, byddwch yn sgorio pwyntiau. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu pa ddatganiad sydd yn fwyaf addas ar gyfer eich sefyllfa. Byddwch yn cael swm penodol o bwyntiau ar gyfer pob gweithgaredd, a hynny o 0 i 12.
Bydd cyfanswm y pwyntiau yr ydych yn sgorio ar gyfer pob grŵp o weithgareddau yn helpu i benderfynu a ydych yn gymwys i dderbyn TAP a faint o arian y byddwch yn derbyn.
Er mwyn derbyn yr elfen cyfradd byw dyddiol safonol, mae angen i chi sgorio cyfanswm sydd rhwng 8 ac 11 pwynt ar gyfer y gweithgareddau byw’n ddyddiol. Rydych angen 12 pwynt er mwyn sicrhau’r gyfradd uwch.
Er mwyn sicrhau'r elfen symudedd cyfradd safonol, mae angen i chi sgorio cyfanswm sydd rhwng 8 ac 11 pwynt ar gyfer y gweithgareddau symudedd. Rydych angen 12 pwynt er mwyn sicrhau’r gyfradd uwch.
Stori Karl
Mae Karl yn dioddef o orbryder ac iselder. Anaml iawn y mae’n gadael y tŷ heb gwmni ac nid yw’r ateb y ffȏn neu’r drws oni bai ei fod yn gwybod pwy sydd yn galw. Mae’n pryderi ynglŷn â siarad gyda phobl yn sgil y ffaith ei fod yn ddioddef pyliau o banig.
Mae Karl yn medru siarad gyda phobl pan ei fod yng nghwmni ei weithiwr cymdeithasol. Mae’n canfod pethau’n anodd ond yn gwybod y bydd y gweithiwr cymdeithasol yn ei helpu i bwyllo os yw’n cael pwl o banig.
Mae’r Adran Waith a Phensiynau o bosib yn mynd i roi 4 pwynt i Karl am y gweithgaredd byw’n ddyddiol ‘Ymgysylltu gyda phobl eraill wyneb i wyneb’. Mae hyn yn sgil y ffaith bod Karl angen cymorth cymdeithasol er mwyn siarad gyda phobl eraill wyneb i wyneb.
Byddai Karl angen sgorio o leiaf pedwar pwynt pellach ar y gweithgareddau byw’n ddyddiol eraill er mwyn sicrhau'r elfen byw’n ddyddiol ar y gyfradd safonol