Pa gwestiynau sydd ar y ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
Byddwch yn derbyn y ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ pan yn gwneud cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP). Rydym wedi ystyried y cwestiynau a ofynnir gan y ffurflen.
C1 - Manylion cyswllt eich gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
Mae hyn yn medru cynnwys eich Meddyg Teulu, nyrs seiciatryddol gymunedol, therapydd galwedigaethol, gweithiwr cymorth, neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol neu arbenigwr sydd yn gweithio gyda chi.
Efallai y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn gofyn i’ch gweithwyr proffesiynol am fwy o wybodaeth os ydynt angen yn.
C2a – Eich cyflyrau iechyd
Rhannwch eich diagnosis mwyaf diweddar gan ddweud pa bryd i’r symptomau ddechrau. Mae modd i chi rhannu gwybodaeth am unrhyw gyflyrau blaenorol os ydynt yn berthnasol. Os nad ydych wedi derbyn diagnosis, esboniwch pam a rhannwch brif symptomau eich cyflwr.
C2b - Meddyginiaethau neu driniaethau
Mae’n medru helpu os ydych yn danfon rhestr bresgripsiwn gyfredol os oes un gennych. Rhestrwch unrhyw driniaethau preifat yr ydych yn derbyn ynghyd â thriniaethau’r GIG.
Cwestiynau 3-15 - Sut y mae eich cyflyrau yn effeithio arnoch
Mae pob un o’r cwestiynau yma ynglŷn â gweithgaredd yn y prawf byw’n ddyddiol a symudedd. Dylech eu hateb yn ofalus ac yn drylwyr.
- Mae cwestiynau 3–12 ar gyfer yr elfen byw’n ddyddiol.
- Mae cwestiynau 13 a 14 ar gyfer yr elfen symudedd
- Mae cwestiwn 15 ar gyfer gwybodaeth ychwanegol. Mae modd i chi nodi unrhyw wybodaeth ychwanegol yma yr ydych yn credu sydd yn mynd i helpu’ch cais.
Dylech ddefnyddio’r blychau ‘gwybodaeth ychwanegol’ bob tro er mwyn esbonio sut yn union y mae eich afiechyd yn effeithio arnoch.
Pan yn ateb y cwestiynau, cofiwch y canlynol:
- Dylech ddefnyddio’r blychau ‘gwybodaeth ychwanegol’ bob tro er mwyn esbonio sut yn union y mae eich afiechyd yn effeithio arnoch.
- Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi gywasgu eich ateb yn y blwch sydd wedi ei ddarparu. Mae modd i chi ddefnyddio’r gofod ar ddiwedd y ffurflen neu daflenni ychwanegol o bapur os oes angen.
- Os ydych yn defnyddio papur ychwanegol, ychwanegwch eich rhif Yswiriant Cenedlaethol a’i atodi at y ffurflen yn ddiogel.
- Ceisiwch roi esboniadau ac enghreifftiau eglur, byr, sydd yn berthnasol i’r gweithgaredd.
- Diogel – A ydych yn medru ymgymryd â’r gweithgaredd heb achosi niwed i’ch hun nag unrhyw un arall?
- Yn ddigon da – Er enghraifft, efallai eich bod yn medru paratoi pryd bwyd ond efallai nad ydych yn medru ei fwyta os nad yw wedi ei goginio’n ddigonol.
- Mwy nag unwaith - A ydych yn medru ail-adrodd y gweithgaredd cynifer o weithiau ag sydd angen?
- Mewn amser rhesymol - A ydy’n cymryd dipyn hirach i chi wneud y gweithgaredd o’i gymharu gyda’r rhan fwyaf o bobl?Nid oes rhaid i chi fod yn derbyn triniaeth neu gymorth er mwyn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer TAP. Os nad ydych yn derbyn yr holl gymorth sydd angen arnoch, ystyriwch sut y byddai eich bywyd yn medru gwella pe bai rhywun yn annog, helpu neu’n eich cymell i ymgymryd â gweithgareddau
- Meddyliwch sut ydych yn medru ymgymryd â gweithgareddau.
- Diogel – A ydych yn medru ymgymryd â’r gweithgaredd heb achosi niwed i’ch hun nag unrhyw un arall?
- Yn ddigon da – Er enghraifft, efallai eich bod yn medru paratoi pryd bwyd ond efallai nad ydych yn medru ei fwyta os nad yw wedi ei goginio’n ddigonol.
- Mwy nag unwaith - A ydych yn medru ail-adrodd y gweithgaredd cynifer o weithiau ag sydd angen?
- Mewn amser rhesymol - A ydy’n cymryd dipyn hirach i chi wneud y gweithgaredd o’i gymharu gyda’r rhan fwyaf o bobl?
- Er mwyn cymhwyso ar gyfer TAP, rhaid i chi ddangos bod angen help arnoch gyda gweithgareddau ar fwy nag hanner o ddiwrnodau’r flwyddyn. Byddwch yn eglur ar y ffurflen pa mor aml yr ydych yn cael problemau gyda’r gweithgareddau.
- Os yw eich iechyd yn newid, esboniwch pa mor aml y mae hyn yn digwydd a pha effaith y mae’n ei gael arnoch. Efallai y byddai’n helpu i chi gadw dyddiadur.
Diffiniad o rai o’r geiriau ac ymadroddion allweddol
Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn defnyddio’r geiriau ac ymadroddion canlynol yn y prawf gweithgareddau.
Goruchwyliaeth – mae hyn yn golygu bod angen person arall yn gofalu amdanoch drwy’r amser er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel.
Cymell – mae hyn yn golygu bod person arall angen eich atgoffa neu’ch annog i wneud rhywbeth neu esbonio rhywbeth i chi.
Cymorth – mae hyn yn golygu bod person arall yno er mwyn eich helpu’n gorfforol i wneud rhywbeth. Nid yw hyn yn cynnwys rhywun arall yn siarad ar eich rhan.
Trallod seicolegol – mae hyn yn golygu trallod meddwl megis iselder megis trallod, emosiynau cymhleth, rhithweledigaethau, llid neu iselder. he DWP use the following words and phrases in the activities test.
Isod, rydym wedi amlinellu:
- Crynodeb o bob gwasanaeth
- Y cwestiynau y mae’r ffurflen gais yn gofyn
- Cyngor ac awgrymiadau i’w hystyried pan yn llenwi’r ffurflenBelow we have set out:
C3 Paratoi Bwyd
Mae’r gweithgaredd hwn ynglŷn â’ch gallu i wneud pryd bwyd syml. Mae’n ystyried a oes angen help arnoch i goginio prydau bwyd cyson yn ddyddiol.
Bydd yn ystyried a ydych yn medru:
- agor pecynnau
- pilio, torri a gweini bwyd, a
- defnyddio popty neu meicrodon er mwyn coginio a thwymo bwyd.
Nid yw’n ystyried eich sgiliau coginio ond yn ystyried os ydych angen help er mwyn gwneud prydau bwyd. Mae hyn yn cynnwys help corfforol neu os oes angen rhywun arall i’ch cymell chi.
Mae pryd bwyd syml yn golygu ‘ pryd bwyd un cwrs ar gyfer un person sydd wedi ei wneud o gynhwysion lleol’. Mae offer sy’n helpu yn medru cynnwys stôl neu potiau ysgafn.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C3a) A ydych yn defnyddio pethau i’ch helpu chi baratoi neu goginio pryd bwyd syml? C3b) A ydych angen help gan berson arall er mwyn paratoi neu goginio pryd bwyd syml? C3) gwybodaeth ychwanegol |
Yn medru paratoi a choginio pryd bwyd syml heb unrhyw gymorth = 0 |
Angen defnyddio offer sy’n helpu i baratoi neu goginio pryd bwyd syml = 2 |
|
Yn methu coginio pryd bwyd syml gan ddefnyddio popty arferol ond yn medru gwneud hyn wrth ddefnyddio meicrodon = 2 |
|
Angen rhywun i’ch cymell i baratoi neu goginio pryd bwyd syml = 2 |
|
Angen goruchwyliaeth neu gymorth i baratoi neu goginio pryd bwyd syml = 4 |
|
Yn methu paratoi a choginio pryd bwyd syml = 8 |
C3 cyngor ac awgrymiadau
- A yw eich afiechyd neu feddyginiaeth yn effeithio ar eich gallu i wneud prydau bwyd?
- A ydych yn aml yn teimlo’n rhy ddiymadferth i wneud prydau bwyd?
- A ydy’n hawdd iawn i rywbeth i ddwyn eich sylw tra’n coginio?
- A ydych angen eistedd ar stôl pan yn coginio?
- A ydy’ch salwch neu feddyginiaeth yn effeithio ar eich gallu i ddefnyddio popty neu padelli twym yn ddiogel? Er enghraifft, drwy eich blino neu’ch cymhlethu.
- A ydych angen rhywun i’ch atgoffa neu’ch helpu i wneud prydau bwyd?
- A ydych angen rhywun i goginio i chi?
- A ydych angen help i ddilyn cyfarwyddiadau coginio
C4 Paratoi Bwyd
Mae’r gweithgaredd yma’n ymwneud â’ch gallu i fwyta ac yfed.
Bydd yn ystyried a ydych yn medru:
- torri bwyd,
- gosod y bwyd yn eich ceg,
- cnoi a llyncu, a
- cydnabod pryd a faint yr ydych angen bwyta ac yfed.
Mae teclyn i’ch helpu yn yr adran hon yn medru cynnwys gwelltyn neu gyllyll a ffyrc sydd wedi eu newid ar gyfer eich anghenion.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C4a) A ydych yn defnyddio teclyn er mwyn eich helpu chi yfed a bwyta? C4b) A ydych yn defnyddio tiwb bwydo neu declyn tebyg er mwyn bwyta ac yfed? C4c) A ydych angen help gan berson arall er mwyn bwyta ac yfed? C4) Gwybodaeth ychwanegol |
Yn medru derbyn maeth heb gymorth = 0 |
Anghenion (i) yn defnyddio teclyn er mwyn medru derbyn maeth; neu (ii) goruchwyliaeth er mwyn derbyn maeth; neu (iii) cymorth i dorri eich bwyd = 2 |
|
Angen ffynhonnell therapiwtig er mwyn derbyn maeth = 2 |
|
Angen eich cymell er mwyn derbyn maeth = 4 |
|
Angen cymorth er mwyn rheoli ffynhonnell therapiwtig er mwyn derbyn maeth = 6 |
|
Yn methu rhoi bwyd a diod yn eich ceg ac angen help person arall er mwyn gwneud hyn = 10 |
C4 cyngor ac awgrymiadau
- A ydych yn colli prydau bwyd yn aml?
- A ydych yn gwrthod neu’n anghofio bwyta neu yfed?
- A ydy’ch meddyginiaeth yn achosi i chi grynu gan wneud bwyta/yfed yn anodd?
- A ydych angen rhywun i’ch atgoffa, cymell, goruchwylio neu helpu sicrhau eich bod yn bwyta ac yfed
C5 Rheoli therapi a monitro cyflwr iechyd meddwl
Mae’r gweithgaredd hwn yn ymwneud â bod yn medru cymryd meddyginiaeth, sylwi ar newidiadau yn eich cyflwr iechyd a rheoli triniaethau neu therapi sydd yn eich cartref.
Mae teclyn/offer yn yr adran hon yn medru cynnwys blwch tabledi neu drefnydd. Mae help gan berson arall yn medru cynnwys rhywun sydd yn monitro eich iechyd a’n sicrhau eich bod yn cymryd eich meddyginiaeth fel sydd wedi ei rhagnodi gan y meddyg.
Ers 16 Mawrth 2017, mae’r gweithgaredd hwn wedi newid. Mae “Rheoli therapi” a “rheoli meddyginiaeth” nawr yn cael eu trin fel dau weithgaredd ar wahân. Cyn hyn, roedd rheoli meddyginiaeth yn dod o dan yr un diffiniad â rheoli therapy.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C5a) A ydych yn defnyddio teclyn neu offeryn i fonitro eich cyflyrau iechyd, cymryd meddyginiaeth neu rheoli triniaethau yn y cartref?
C5b) A ydych angen help gan berson arall er mwyn monitro eich cyflyrau iechyd meddwl, cymryd meddyginiaeth a rheoli triniaethau yn y cartref?
C5) Gwybodaeth ychwanegol
|
Naill ai (i) nid ydych yn derbyn meddyginiaeth neu therapi neu nid ydych angen monitro cyflwr iechyd; neu (ii) yn medru rheoli meddyginiaeth neu therapi neu’n medru monitro cyflwr iechyd heb yr angen am gymorth = 0 |
Angen un neu fwy o’r canlynol (i) yn defnyddio teclyn neu offer er mwyn medru rheoli meddyginiaeth; (ii) goruchwyliaeth, cymell neu gymorth i fedru rheoli meddyginiaeth (iii) goruchwyliaeth, cymell neu gymorth i fedru monitor cyflwr iechyd = 1 |
|
Angen goruchwyliaeth, cymell neu gymorth i fedru rheoli therapi, na sydd yn cymryd mwy na 3.5 awr yr wythnos = 2 |
|
Angen goruchwyliaeth, cymell neu gymorth i fedru rheoli therapi, na sydd yn cymryd mwy na 3.5 awr yr wythnos ond dim mwy na 7 awr yr wythnos = 4 |
|
Angen goruchwyliaeth, cymell neu gymorth i fedru rheoli therapi, na sydd yn cymryd mwy na 7 awr yr wythnos ond dim mwy na 14 awr yr wythnos = 6 |
|
Angen goruchwyliaeth, cymell neu gymorth i fedru rheoli therapi, sydd angen mwy na 14 awr yr wythnos = 8 |
C5 cyngor ac awgrymiadau
- A ydych yn sylwi pan fydd eich iechyd meddwl yn newid?
- A ydych yn medru derbyn help to er mwyn osgoi mynd yn fwy sâl?
- A ydych yn medru rheoli eich meddyginiaeth neu’ch therapïau cartref (megis technegau ymlacio neu feddyginiaeth)?
- A ydych angen trefnydd tabledi er mwyn eich atgoffa pa feddyginiaeth i’w gymryd?
- A oes rhywun angen eich goruchwylio er mwyn sicrhau eich bod yn cymryd y feddyginiaeth gywir?
- A ydych yn aml yn anghofio cymryd eich meddyginiaeth?
- A ydych wedi cymryd gorddos yn fwriadol?
- A ydych yn niweidio eich hun?
C6 Golchi ac ymolchi
Mae hyn yn cynnwys mynd i mewn ac allan o faddon neu gawod sydd heb eu haddasu a golchi eich corff cyfan. Mae hefyd yn cynnwys pan fydd symptomau eich problemau iechyd meddwl yn golygu nad ydych yn ymolchi bob un diwrnod. Mae help yn medru cynnwys rhywun yn eich atgoffa neu’ch helpu i olchi
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C6a) A ydych yn defnyddio teclyn neu offer i olchi eich hun, gan gynnwys defnyddio baddon neu gawod? C6b) A ydych angen help gan berson arall er mwyn ymolchi? C6) Gwybodaeth ychwanegol
|
Yn medru golchi a defnyddio’r baddon heb gymorth = 0 |
Angen defnyddio teclyn/offeryn er mwyn ymolchi = 2 |
|
Angen bod rhywun yn eich goruchwylio neu’ch cymell er mwyn ymolchi = 2 |
|
canol = 2 |
|
Angen cymorth i fynd i mewn ac allan o faddon neu gawod = 3 |
|
Angen cymorth i fedru golchi’r corff rhwng yr ysgwyddau a’r canol = 4 |
|
Yn methu ymolchi a defnyddio’r baddon o gwbl ac angen person arall i olcho’r corff cyfan = 8 |
C6 cyngor ac awgrymiadau
- A ydy’ch afiechyd neu feddyginiaeth yn golygu nad ydych yn ymolchi’n gyson?
- A ydych yn aml yn teimlo’n rhy ddiymadferth i ymolchi?
- A ydych angen eistedd yn y gawod gan fod eich meddyginiaeth yn achosi i chi fynd yn benysgafn?
- A ydych angen rhywun i’ch atgoffa i ymolchi a defnyddio’r baddon?]
C7 Rheoli anghenion mynd i’r tŷ bach neu anymataliaeth
Mae’r gweithgaredd hwn yn ymwneud â’ch gallu i fynd ar ac oddi ar y tŷ bach a glanhau eich hun wedi hyn.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C7a) A ydych angen defnyddio teclyn neu offeryn i fynd i’r tŷ bach neu er mwyn rheoli anymataliaeth? C7b) A ydych angen help gan berson arall i fynd i’r tŷ bach neu er mwyn rheoli anymataliaeth ? C7) Gwybodaeth ychwanegol
|
Yn rheoli anghenion mynd i’r tŷ bach neu anymataliaeth heb unrhyw gymorth = 0 |
Yn gorfod defnyddio teclyn neu offeryn i fynd i’r tŷ bach neu er mwyn rheoli anymataliaeth = 2 |
|
Angen unigolyn i’ch goruchwylio neu’ch cymell er mwyn medru rheoli anghenion tŷ bach = 2 |
|
Angen cymorth er mwyn medru rheoli medru rheoli anghenion tŷ bach = 4 |
|
Angen cymorth er mwyn medru rheoli anymataliaeth o’r bledren neu’r coluddyn = 6 |
|
Angen cymorth er mwyn medru rheoli anymataliaeth o’r bledren neu’r coluddyn = 8 |
C7 cyngor ac awgrymiadau
- Nid yw pobl sydd af afiechyd meddwl yn unig fel arfer yn sgorio unrhyw bwyntiau yma.
- Efallai ei bod yn bosib sgorio pwyntiau mewn rhai achosi os yw eich afiechyd neu’ch meddyginiaeth yn achosi anymataliaeth.
- Efallai y byddwch yn sgorio pwyntiau os yw eich cyflwr iechyd meddwl yn effeithio ar anghenion tŷ bach.
C8 Gwisgo a dadwisgo
Mae’r gweithgaredd yma yn ystyried eich gallu i ddewis, gwisgo a dadwisgo dillad sydd heb eu haddasu.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C8a) A ydych yn medru defnyddio teclyn neu offer i wisgo neu ddadwisgo? C8b) A ydych angen help gan berson arall er mwyn gwisgo a dadwisgo? C8) Gwybodaeth ychwanegol |
A ydych yn medru gwisgo neu dadwisgo heb gymorth = 0 |
Angen defnyddio teclyn neu offer i wisgo neu ddadwisgo = 2 |
|
Naill ai (i) cymell er mwyn gwisgo, dadwisgo neu’n pennu’r amgylchiadau priodol i barhau i wisgo dillad; neu (ii) cymell neu gymorth er mwyn medru dewis dillad priodol = 2 |
|
Angen cymorth er mwyn medru gwisgo neu ddadwisgo rhan isaf y corff = 2 |
|
Angen cymorth er mwyn medru gwisgo neu ddadwisgo rhan uchaf y corff = 4 |
|
Yn methu gwisgo neu ddadwisgo o gwbl = 8 |
C8 cyngor ac awgrymiadau
- A ydy’ch salwch yn effeithio ar eich gallu neu’ch cymhelliad i wisgo eich hun?
- A ydych chi angen rhywun i’ch cymell chi i wisgo neu ddadwisgo?
- A ydych chi’n ei chanfod hi’n anodd penderfynu pa ddillad sydd yn briodol ar gyfer amser o’r dydd neu’r amodau tywydd?
- A ydych yn medru cadw eich dillad yn lân fel eich bod yn medru gwisgo yn briodol?]
C9 Cyfathrebu ar lafar
Mae hyn yn cynnwys deall yr hyn y mae rhywun yn ei ddweud a deall yr hyn sydd yn cael ei ddweud gan eraill.
Mae gwybodaeth lafar ‘sylfaenol’ yn golygu rhoi gwybodaeth mewn brawddeg sengl.
Mae gwybodaeth lafar ‘cymhleth yn golygu rhoi gwybodaeth mewn mwy nag un frawddeg, neu mewn brawddeg sengl gymhleth.
Mae cymorth cyfathrebu yn golygu help gan berson sydd wedi ei hyfforddi neu’n brofiadol yn helpu pobl ag anghenion cyfathrebu, er enghraifft dehonglwr iaith arwyddion.
Mae teclyn neu gyfleuster yn medru cynnwys teclyn clywed neu electrolarynx
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C9a) A ydych yn defnyddio teclyn neu gyfleuster i gyfathrebu ag eraill? Q9b) A ydych angen help gan berson arall er mwyn cyfathrebu ag eraill eraill? Q9) Gwybodaeth ychwanegol |
Yn medru mynegi a deall gwybodaeth ar lafar heb yr angen am gymorth = 0 |
Angen defnyddio teclyn neu gyfleuster i siarad neu glywed = 2 |
|
Angen cymorth cyfathrebu er mwyn medru mynegi a deall gwybodaeth ar lafar sy’n gymhleth = 4 |
|
Angen cymorth cyfathrebu er mwyn medru mynegi a deall gwybodaeth ar lafar sy’n sylfaenol = 8 |
|
Yn methu mynegi neu’n deall gwybodaeth ar lafar o gwbl, hyd yn oed gyda chymorth cyfathrebu = 12 |
C9 cyngor ac awgrymiadau
- A ydy’ch afiechyd neu’ch meddyginiaeth yn gwneud hi’n anodd i eraill eich deall?
- A ydych yn medru deall pobl eraill?
- A yw’n galed i chi ganolbwyntio pan yn siarad gyda phobl?
- A ydych chi’n cymhlethu’n hawdd pan fydd rhywun yn esbonio pethau i chi?
C10 Darllen a deall arwyddion, symbolau a geiriau
Mae’r gweithgaredd hwn yn ystyried eich gallu i ddarllen a deall deunydd ysgrifenedig ac sydd wedi ei argraffu.
Mae gwybodaeth ‘sylfaenol’ yn golygu arwyddion, symbolau neu ddyddiadau.
Mae gwybodaeth ‘gymhleth’ yn golygu ‘mwy nag un frawddeg wedi ei hysgrifennu neu o faint arferol.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C10a) A ydych yn defnyddio teclyn neu gyfleuster arall, ac eithrio sbectol er mwyn darllen arwyddion, symbolau a geiriau? C10b) A ydych angen help gan berson er mwyn darllen arwyddion, symbolau a geiriau? C10) Gwybodaeth ychwanegol |
Yn medru darllen a deall gwybodaeth ysgrifenedig sylfaenol a chymhleth naill ai heb gymorth neu’n defnyddio sbectol neu lensys cyffwrdd = 0 |
Angen defnyddio teclyn neu offer, ac eithrio sbectol neu lensys cyffwrdd, er mwyn darllen neu ddeall gwybodaeth ysgrifenedig sylfaenol a chymhleth = 2 |
|
Angen cymell er mwyn darllen neu ddeall gwybodaeth ysgrifenedig sylfaenol a chymhleth = 2 |
|
Angen cymell er mwyn darllen neu ddeall gwybodaeth ysgrifenedig sylfaenol = 4 |
|
Yn methu darllen neu ddeall arwyddion, symbolau neu eiriau o gwbl = 8 |
C10 cyngor ac awgrymiadau
- A ydy’ch afiechyd yn effeithio ar eich gallu i ddarllen?
- A ydych yn medru darllen a deall eich bil nwy neu’ch cyfrif banc?
- A ydych yn medru dilyn cyfarwyddiadau ysgrifenedig syml? Er enghraifft, y cyfarwyddiadau ar eich meddyginiaeth sydd yn esbonio pa pryd y dylech gymryd y feddyginiaeth
C11 Ymgysylltu gyda phobl eraill wyneb i wyneb
Mae hyn yn cynnwys deall iaith y corff ac adeiladu perthynas gyda phobl eraill.
Pan yn ystyried y gweithgaredd hwn, dylai’r Adran Waith a Phensiynau feddwl am eich gallu i fod yng nghwmni pobl yn gyffredinol, nid yn unig y bobl hynny yr ydych yn eu hadnabod.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C11a) A ydych angen help person arall i gymysgu gyda phobl eraill? C11b) A ydych chi’n ei chanfod hi’n anodd cymysgu ag eraill yn sgil gorbryder neu drallod difrifol? C11) Gwybodaeth ychwanegol |
A ydych yn medru ymgysylltu ag eraill heb gymorth = 0 |
Angen eich cymell er mwyn medru ymgysylltu ag eraill = 2 |
|
Angen cymorth cymdeithasol er medru ymgysylltu ag eraill = 4 |
|
Yn methu ymgysylltu ag eraill gan fod hyn yn achosi– (i) trallod seicolegol sylweddol i’r unigolyn sy’n hawlio; neu (ii) yn achosi’r hawlydd i ymddwyn mewn ffordd a fyddai’n arwain at risg sylweddolo niwed i’r hawlydd neu berson arall = 8 |
C11 cyngor ac awgrymiadau
- A ydych yn cymdeithasu gyda phobl eraill? Os nad ydych, pam?
- Beth sydd yn digwydd i chi pan fyddwch yn gwneud hyn? Rhowch enghreifftiau os gwelwch yn dda?
- Sut ydych yn teimlo pan yn cwrdd â dieithryn?
- A ydych ond yn medru cwrdd â phobl newydd pan eich bod gyda’ch gofalwr?
- A ydych angen rhywun i’ch helpu i fynd i apwyntiadau?
- A ydych yn treulio llawer o amser yn eich cartref yn sgil gobryder neu baranoia?
- Pa mor aml ydych yn cael problemau pan yn cwrdd ag eraill?
C12 Gwneud penderfyniadau cyllidebu
Mae hyn yn cynnwys prynu eitemau o’r siop neu’n talu biliau.
Mae penderfyniadau cyllidebu ‘syml’ yn cynnwys cadarnhau faint y mae pethau yn costio a faint o newid sydd angen arnoch pan yn prynu rhywbeth.
Mae penderfyniadau cyllidebu ‘cymhleth’ yn cynnwys cadarnhau cyllidebau, talu biliau a chynllunio’r hyn i’w brynu yn y dyfodol.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C12a) A ydych angen rhywun arall i’ch helpu chi i ddeall faint y mae pethau yn costio pan eich bod yn eu prynu neu faint o newid y byddwch yn derbyn? C12b) A ydych angen rhywun arall i’ch helpu chi i reoli cyllideb yr aelwyd, talu biliau neu gynllunio i brynu pethau yn y dyfodol? C12) Gwybodaeth ychwanegol |
Yn medru rheoli penderfyniadau cymhleth am gyllidebu heb gymorth = 0 |
Angen cymell neu gymorth er mwyn medru gwneud penderfyniadau cyllidebu cymhleth = 2 |
|
Angen cymell neu gymorth i’ch helpu chi gwneud penderfyniadau cyllidebu syml = 4 |
|
Yn methu gwneud unrhyw benderfyniadau cyllidebu o gwbl = 6 |
C12 cyngor ac awgrymiadau
- A ydych chi angen help er mwyn sicrhau eich bod yn talu’ch biliau?
- A ydych chi yn medru cyllidebu er mwyn sicrhau bod arian gennych er mwyn prynu nwyddau hanfodol megis bwyd?
- A ydych yn cael problemau i ysgogi’ch hun sydd yn eich atal rhag talu eich biliau?
- A ydych chi yn rhy haelionus gyda’ch arian? Er enghraifft, ydych chi yn rhoi arian i eraill pan nad ydych yn medru fforddio gwneud hynny?
- A ydych chi angen rhywun i fynd i’r siopau gyda chi er mwyn eich helpu gyda thaliadau a sicrhau eich bod yn derbyn y newid cywir?
C13 Cynllunio a mynd ar deithiau
Ar 16 o Fawrth 2017,roedd y Llywodraeth wedi newid y rheolau. Dywedasant nad oes hawl gennych i chi gael pwyntiau am drallod meddwl sydd yn cael ei achosi gan gynllunio taith, neu ddilyn taith gyfarwydd neu anghyfarwydd heb gymorth. Ond ar 21 Rhagfyr, roedd yna achos llys wedi datgan fod hyn yn annheg ac ni ddylid newid y rheolau. Mae hyn yn golygu eich bod nawr yn medru derbyn pwyntiau os nad ydych yn medru cynllunio neu fynd ar daith yn sgil trallod meddwl.
Mae’r tabl isod yn dangos y rheolau ers 21 Rhagfyr 2017. Os ydych wedi gwneud cais am TAP rhwng 16 Mawrth 2017 a 21 Rhagfyr 2017, byddwch yn gymwys i dderbyn ôl-daliad. Os nad ydych yn medru defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ni ddylai’r Adran Waith a Phensiynau eich ystyried fel rhywun sydd yn medru cynllunio a mynd ar daith anghyfarwydd ar ben eich hun.
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
C13a) A ydych angen help gan berson arall er mwyn cynllunio taith i rywle na sy’n gyfarwydd i chi? Neu a ydych angen person arall, ci tywys neu declyn arbenigol er mwyn eich helpu chi fynd yno? C13b) A ydych angen help gan berson arall, person, ci tywys neu declyn arbenigol er mwyn eich helpu chi fynd i leoliad sydd yn anghyfarwydd i chi? C13c) A ydych yn methu mynd allan yn sgil gorbryder neu drallod ddifrifol?
C13) Gwybodaeth ychwanegol
|
Yn medru cynllunio a mynd ar daith heb gymorth = 0 |
Angen eich cymell er mwyn mynd ar daith er mwyn osgoi trallod seicolegol llethol i’r hawlydd = 4 |
|
Yn methu cynllunio teithiau am resymau eraill ac eithrio trallod seicolegol = 8 |
|
Yn methu cynllunio teithiau i lefydd dieithr am resymau eraill ac eithrio trallod seicolegol heb berson ychwanegol, tŷ cynnwys neu declyn i’ch helpu = 10 |
|
Yn methu mynd ar daith gan y byddai’n achosi trallod seicolegol llethol i’r hawlydd = 10 Yn methu mynd ar daith gan y byddai’n achosi trallod seicolegol sylweddol i’r hawlydd - 12 |
C13 cyngor ac awgrymiadau
- A ydych yn mynd i lefydd yr ydych wedi iddynt o’r blaen?
- A ydych yn cael trafferthion yn mynd i rywle newydd?
- A ydych yn medru defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
- A ydych angen bod rhywun yno gyda chi pan eich bod yn mynd allan?
- Sut y mae mynd allan a mynd ar daith yn gwneud i chi deimlo?
- Os oes rhywbeth yn effeithio ar eich taith sydd wedi ei chynllunio, er enghraifft heol wedi ei chau, a fyddech yn medru parhau gyda’ch taith?
- A ydych byth yn gadael eich tŷ? Os na, pam? Beth fyddai’n digwydd pe baech yn gwneud hyn?
C14 Symud o gwmpas
Mae’r gweithgaredd hwn yn ystyried eich gallu i symud o gwmpas
Cwestiynau ar y ffurflen |
Y disgrifyddion a’r sgoriau |
Q14a) Pa mor bell ydych yn medru cerdded gan ystyried unrhyw declynnau yr ydych yn eu defnyddio? Q14b) A ydych yn defnyddio rhywbeth i’ch helpu er mwyn cerdded? Q14c) A ydych yn defnyddio cadair olwyn neu ddyfais debyg er mwyn symud o gwmpas y lle yn ddiogel, yn ddibynadwy ac o fewn cyfnod amser rhesymol?
Q14) Gwybodaeth ychwanegol
|
Yn medru sefyll ac yna’n sydd o gwmpas mwy na 200 metr, naill gyda chymorth neu heb gymorth = 0 |
Yn medru sefyll ac yna’n sydd o gwmpas mwy na 50 metr ond dim mwy na 200 metr, naill gyda chymorth neu heb gymorth = 4 |
|
Yn medru sefyll ac yna’n sydd o gwmpas mwy na 20 metr ond dim mwy na 50 metr, naill gyda chymorth neu heb gymorth = 8 |
|
Yn medru sefyll ac yna symud gan ddefnyddio teclyn i’ch cynorthwyo, a hynny am fwy na 20 metr ond dim mwy na 50 metr = 10 |
|
Yn medru sefyll ac yna symud am fwy na 1 metr ond dim mwy na 20 metr, naill gyda chymorth neu heb gymorth = 12 |
|
Yn methu, gyda chymorth neu heb gymorth, (i) sefyll; neu (ii) symud mwy na 1 metr = 12 |
C14 cyngor ac awrymiadau
- Nid yw pobl sydd af afiechyd meddwl yn unig fel arfer yn sgorio unrhyw bwyntiau yma.
- Efallai ei bod yn bosib sgorio pwyntiau mewn rhai achosi os yw eich afiechyd corfforol yn effeithio ar eich gallu i symud.